Richard Burton
Bydd ffilm a fydd i’w gweld ar S4C dros y Nadolig yn codi cwestiynau newydd am y berthynas rhwng yr actor byd enwog, Richard Burton, a’i frawd hynaf, Ifor Jenkins.

Mae Burton: Y Gyfrinach yn portreadu’r tensiwn rhwng y ddau frawd a chwerwder y brawd hynaf tuag at Richard.

Fe gafodd y ffilm ei saethu ar leoliad yn Celigny, y Swistir a’r sgript ei hysgrifennu gan yr awdur a’r dramodydd William Owen Roberts.

Richard Harrington a Dafydd Hywel sy’n chwarae’r ddau frawd.

Ymhlith y cwestiynau sy’n codi yn y ffilm mae’r modd yr anafwyd Ifor yng nghartref Richard Burton yn y Swistir un noson ym Mehefin 1968. Er na siaradodd y brodyr am y digwyddiad wedyn, mae’n ymddangos iddyn nhw yfed yn drwm yn ystod y dydd ac i Ifor gael ei daro’n wael. Dywedwyd fod Ifor wedi syrthio lawr y grisiau. Dyw hynny ddim yn sicr, ond yr hyn a wyddom yw na fu iechyd Ifor byth yr un peth wedyn. Y gred yw i’r digwyddiadau hyn newid bywyd Richard Burton am byth ac iddo chwerwi ac yfed yn drymach nag erioed.

Mae’r cyfarwyddwr ffilm Dylan Richards wedi bod yn ymchwilio i fywyd Richard Burton ers rhai blynyddoedd. Gan ddefnyddio’r ffeithiau hysbys am amgylchiadau’r diwrnod hwnnw, mae wedi gorfod hefyd ddyfalu a damcaniaethu i greu drama afaelgar 90 munud o hyd.

“Yr hyn y mae’r ffilm yn ceisio ei gwneud yw ail greu’r oriau coll, ceisio mynd at y gwir tu ôl i’r gyfrinach,” meddai Dylan. “Mae’n ceisio cynnig ateb ond wrth gwrs mae’n codi mwy o gwestiynau hefyd.”

Fe gafodd y ffilm ei saethu ar leoliad yn Celigny, Y Swistir lle’r oedd Richard Burton yn byw.

“Roedd yn brofiad bythgofiadwy mynd i Celigny,” meddai Dylan. “Roedd pobol yr ardal yn cofio Burton yn iawn ac yn gallu cynnig profiadau ac atgofion nad oeddwn yn gwybod o’r blaen. Roedd awyrgylch y lle yn help i ni gyd fynd i’r afael â’r sefyllfa rhwng y ddau frawd.”

Bydd y ffilm Burton: Y Gyfrinach yn cael ei dangos ar S4C nos Fawrth, 27 Rhagfyr am 9.00yr hwyr.