Bydd Gareth Pierce, Prif Weithredwr bwrdd arholi Cymru, CBAC, yn rhoi tystiolaeth i Aelodau Seneddol mewn cyfarfod arbennig o Bwyllgor Addysg San Steffan.

Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 15 Rhagfyr.

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal ar ôl honiadau a ymddangosodd ym mhapur newydd y Daily Telegraph fod arholwyr byrddau wedi torri rheolau.  Mi wnaeth y papur newydd gyfeirio’n benodol at sesiwn hyfforddi undydd ar gyfer athrawon yn Lloegr lle’r oedd un o arholwyr CBAC wedi rhoi gwybodaeth am gwestiwn gorfodol ac wedi dweud bod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn “dwyll”.

Mae dau arholwr CBAC wedi cael eu gwahardd o’u gwaith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews wedi dweud fod enw da’r bwrdd arholi yn y fantol a bod angen i’r bwrdd ddelio â’r mater yn gyflym.

Ac meddai Cadeirydd Pwyllgor Addysg San Steffan, Graham Stuart AS, “Rydym yn cynnal ymchwiliad i fyrddau rheoli, yn edrych ar unrhyw wrthdaro buddiannau a’r angen am adolygiad. Mae’r straeon yn sioc ac yn awgrymu’r angen am newidiadau radical.”