Christine Chapman AC
Mae’r Cynulliad wedi lansio adolygiad i’r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru heddiw.

Bydd yr adolygiad yn mynd i’r afael â’r broses o asesu darpar rieni, yn edrych ar ffactorau sy’n rhwystro pobol rhag mabwysiadu, a dylid eu dileu, ac yn ystyried y cymorth sydd ar gael i deuluoedd sy’n mabwysiadu.

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobol Ifanc, sy’n cynnal yr adolygiad, yn gofyn am farn sefydliadau ac unigolion perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys pobol sydd â phrofiad personol o’r broses o fabwysiadu.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobol Ifanc, Christine Chapman AC, mae’r broses o fabwysiadu yn ymwneud yn uniongyrchol â dyfodol “rhai o’n plant mwyaf bregus.”

‘Oedi diangen’

Ar ddiwedd Mawrth 2011, roedd 5,419 o blant yng ngofal awdurdodau lleol ar draws Cymru, yn ôl ystadegau’r Asiantaeth Mabwysiadu a Maethu Prydeinig.

Yn ôl yr asiantaeth, mae ychydig dan ddwy fil o blant yn dod dan ofal awdurdodau lleol yng Nghymru bob blwyddyn, gyda 1,885 o blant yn dod i’w gofal yn y flwyddyn i fis Mawrth 2011.

Dywed Christine Chapman fod y pwyllgor wedi penderfynu cynnal yr ymchwiliad gan fod “achosion o oedi diangen” yn y system, “sy’n rhoi gormod o straen ar blant a darpar deuluoedd.”

Yn ôl yr Asiantaeth Mabwysiadu a Maethu Prydeinig, mae’n cymryd 905 o ddiwrnodau – neu dwy flynedd a chwe mis – ar gyfartaledd, rhwng bod plentyn yn cael ei roi yng ngofal yr awdurdodau, ac yn cael ei fabwysiadu.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, fe fydd pwyslais ar “gasglu barn pobl sydd wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â’r broses fabwysiadu, gan mai eu lles hwy fydd wrth galon ein casgliadau a’n hargymhellion.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â phrofiad o’r fath i gymryd rhan a dweud eu barn wrthym” meddai Christine Chapman.

Creu ‘Asiantaeth Mabwysiadu Genedlaethol’

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflwyno cynlluniau ar gyfer sefydlu asiantaeth mabwysiadu genedlaethol i Gymru, fel rhan o’u rhaglen ar gyfer y bum mlynedd nesaf.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi newidiadau i wasanaethau mabwysiadu ar waith ar hyn o bryd,” meddai Christine Chapman, “ac mae wedi cyflwyno cynlluniau i greu un asiantaeth mabwysiadu genedlaethol.”

Mae’r Pwyllgor yn gobeithio bydd canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn “helpu llywio’r polisi mabwysiadu yn y dyfodol, ac yn helpu i gael gwared ar rywfaint o’r straen diangen sydd ar bawb sy’n ymwneud â’r broses fabwysiadu.”