Leighton Andrews
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod ysgolion uwchradd Cymru mewn bands o un i bump, yn seiliedig ar ganlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion, wedi ei feirniadu’n hallt gan Undeb yr NUT.

“Rydym ni wedi rhybuddio dro ar ôl tro bod hyn yn gamy n ôl i blant yng Nghymru ac yn hytrach na gwella safonau, mewn gwirionedd bydd yn arwain ar bocedi o dlodi addysgol yng Nghymru,” meddai David Evans Ysgrifennydd NUT Cymru.

“Byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar y gefnogaeth sy’n dod i ysgolion yn y band isaf.

“Rydym yn gwbwl grediniol ac yn ofni na fydd y drefn yma o fandio yn gwireddu gobeithion y Llywdoraeth ac mae’n rhaid iddyn nhw ddwys ystyried edrych unwaith et oar y cam yma er mwyn diogelu dyfodol ein ysgolion.”

Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi mynnu mai proses i helpu awdurdodau lleol i gefnogi eu hysgolion yn fwy effeithlon yw’r amcan, gan godi safonau a pherfformiad yng Nghymru.

Bydd disgwyl i ysgolion yn y bandiau uchaf rannu eu harferion da gyda’r rhai ar waelod y tabl.

“Os ydyn ni am godi safonau ar draws y sbectrwm yng Nghymru, mae angen i ni wybod sut mae’n hysgolion ni yn perfformio. Mae bandio yn ganolog i hyn,” meddai Leighton Andrews.