Bwrdd yr Iaith lawr ar lan y môr
Mae’r Aelod Seneddol Guto Bebb yn cwestiynu gwerth sesiwn wirfoddoli yn ystod oriau gwaith gan swyddogion cwango yng Nghaerdydd.

Yn ddiweddar bu criw o weithwyr Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar draeth Broadhaven yn Sir Benfro, yn helpu’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus.

“Er ei bod yn glawio yn y bore, cafodd aelod Tîm Gwasanaethau Canolog y Bwrdd (sydd, fel arfer yn gweithio yn swyddfa’r Bwrdd yng Nghaerdydd) amser braf allan yn yr awyr agored yn dysgu mwy am waith Cadwch Gymru’n Daclus,” meddai llefarydd yr elusen mewn datganiad.

“Dysgodd y staff am y niwed mae sbwriel yn cael ar amgylchedd morol cyn cymryd rhan mewn sesiwn i lanhau’r traeth. Treuliwyd amser hefyd yn chwilio am blanhigion ac anifeiliaid yn y pyllau glan môr a dysgu am fywyd ar lan y môr.”

Mae Bwrdd yr Iaith wedi amddiffyn y trip i’r traeth.

“Roedd y diwrnod yn gwirfoddoli gyda Cadw Cymru’n Daclus yn gyfle i swyddogion Gwasanaethau Canolog y Bwrdd ddatblygu’r elfen o weithredu fel tîm ac i ddysgu mwy am y maes cynaladwyedd,” meddai llefarydd.

“Mae yna debygrwydd rhwng gwaith y Bwrdd a gwaith Cadw Cymru’n Daclus, gan fod y ddau sefydliad yn dylanwadu ar bobl i newid eu harferion ac i weithredu mewn ffordd arbennig. Rydym wedi gwahodd swyddogion Cadw Cymru’n Daclus i dreulio diwrnod gyda’n swyddogion ni yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned.”

Ond yn ôl Aelod Seneddol Aberconwy mae’r trip i’r traeth yn “codi cwestiynau sylfaenol am ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus.

“Tra mae rhywun yn gwerthfawrogi bod sicrhau bod gen ti dîm o staff sy’n gweithio yn effeithiol efo’i gilydd, mae o’n anodd iawn cyfiawnhau’r math yna o wariant bellach mewn cyfnod o gynni ariannol.”

Ac nid yw’n cytuno mai diwrnod o wirfoddoli gafwyd.

“Fedri di ddim disgrifio sesiwn lle mae rhywun wedi cael ei dalu am ei bresenoldeb fel gwirfoddoli, yn fy marn i.

“Fyswn i ddim eisiau dweud, 100%, dim gwariant o’r math yma. Achos mae yna elfen o ddatblygu staff sy’n gallu bod yn effeithiol.

“Ond mae hi’n anodd iawn gen i weld bod hel sbwriel ar draeth ar Sir Benfro yn gyfraniad arbennig o gadarn i safon dy staff di.

“Rhaid i ni fod yn ystyriol o sefyllfa ariannol y sector gyhoeddus yn gyffredinol cyn bo ni yn gwario ar y math yma o weithgareddau.”