Mae bron i chwarter o’r 22 cyngor yng Nghymru wedi methu a chael yr un o’u hysgolion i mewn i fand uchaf ysgolion Cymru, yn ôl mesurydd perfformiad newydd Llywodraeth  Cymru.

Heddiw fe gyhoeddodd y Llywodraeth fanylion llawn eu system bandio ysgolion.

Mae ysgolion wedi cael eu gosod yn un o bump band sy’n mesur perfformiad ysgolion yn ôl canlyniadau TGAU a phresenoldeb disgyblion – gyda’r goreuon yn mynd i fand 1, a’r gwaethaf i fand 5.

Does gan Merthyr Tudful, Powys, Torfaen, Blaenau Gwent na Cheredigion yr un ysgol ym mand 1.

Ar y llaw arall, does dim un ysgol ym mand 5 gan Gastell Nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Torfaen, Sir Gar, Conwy, Dinbych, na Sir y Fflint.

Pryderon

Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio honiadau mai cynllun i “godi cywilydd” ar ysgolion sy’n methu yw’r cynllun, nac mai dychwelyd i hen system y gynghrair ysgolion yw’r nod.

Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi mynnu mai proses i helpu awdurdodau lleol i gefnogi eu hysgolion yn fwy effeithlon yw’r amcan, gan godi safonau a pherfformiad yng Nghymru.

Bydd disgwyl i ysgolion yn y bandiau uchaf rannu eu harferion da gyda’r rhai ar waelod y tabl.

“Os ydyn ni am godi safonau ar draws y sbectrwm yng Nghymru, mae angen i ni wybod sut mae’n hysgolion ni yn perfformio. Mae bandio yn ganolog i hyn,” meddai Leighton Andrews.

Ond mae undeb athrawon UCAC wedi dweud eu bod yn pryderu’n fawr am “sgil-effeithiau” y broses o fandio ysgolion.

“Mae dau beth yn ein poeni. Y cyntaf yw y bydd y canlyniadau yn cael eu camddehongli,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

“Er bod fformiwla gymhleth sy’n cynnwys 12 gwahanol ddarn o ddata yn sail ar gyfer y canlyniadau – dim ond sgôr amrwd o 1-5 mae ysgol yn ei gael.

Mae’n dweud bod UCAC yn poeni y bydd y sgôr yn cael ei ddefnyddio “i fesur llwyddiant yr ysgol yn gyffredinol,” ac yn creu cystadleuaeth rhwng ysgolion.

“Yr ail bryder yw nad ydym wedi ein darbwyllo ynghylch ansawdd y gefnogaeth fydd ar gael i ysgolion sydd ym mand 5.

“Os nad oes sicrwydd o gefnogaeth o safon uchel sy’n hollol berthnasol i’r ysgolion unigol, ni fydd unrhyw werth i’r system,” meddai.

Mae’r bandio wedi datgelu bod 29 ysgol uwchradd, o’r 222 sydd wedi eu cynnwys gan y Llywodraeth, wedi cyrraedd y band gorau posib o ran perfformiad, sef band 1, tra bod 29 ysgol hefyd wedi eu gosod ym mand 5.

Mae’r system bandio yn ran o 20 o gynlluniau er mwyn gwella ysgolion yng Nghymru.