Bydd gyrwyr anabl yn cael bathodynnau parcio glas am ddim gan Lywodraeth Cymru, yn ôl cyhoeddiad heddiw.

Yn Lloegr a’r Alban, mae’r hawl gan gynghorau sir i godi tâl o £10 neu £20 ar yrwyr anabl am drwydded.

Ond mae gweinidogion y Llywodraeth yng Nghymru wedi cynnig talu am y cynllun trwy newid y gyfraith fel nad yw hybysebiadau am waith ffordd bellach yn gorfod cael eu cyhoeddi mewn papurau newydd.

Mae ffynonellau o fewn y llywodraeth eisoes wedi cyfaddef y gallai’r cynllun fod yn un dadleuol iawn, os yw’n ergyd arall i ffynonellau cyllid nifer o bapurau newydd Cymru sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd cynnal eu hunain yn ariannol drwy werthiant hysbysebion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod mwy na £1 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar osod gorchmynion rheoliadau traffig mewn papurau newydd lleol.

Byddai newid y gyfraith yn rhoi mwy o “hyblygrwydd” i’r llywodraeth ac awdurdodau traffig i benderfynu sut i rybuddio’r cyhoedd ynglŷn â gwaith cynnal a chadw ar hewlydd, yn ôl y ddogfen ymgynghorol.

Mae’r ddogfen yn dweud y dylai hi fod fyny i’r awdurdodau traffig i benderfynu os mai hysbyseb papur newydd yw’r ffordd mwyaf addas a chost-effeithiol o sicrhau bod y neges yn cyrraedd gyrwyr.

Ar hyn o bryd mae bathodynnau’r anabl yn costio £2 yng Nghymru, ac mae bron i 230,000 yn cael eu defnyddio ar draws y wlad.

Yn ôl y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thrafnidiaeth, Carl Sargeant, mae’r penderfyniad i beidio a rhoi tâl ar fathodynnau yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i daclo tlodi.

“Er mwyn gwneud hyn rydw i’n adolygu’r gwariant ac yn edrych ar wella effeithlonrwydd ym mhob maes – er enghraifft, rydw i ar hyn o bryd yn ymgynghori ar opsiynau a allai wella effeithlonrwydd yn y modd ry’n ni’n hyrwyddo gorchmynion traffig.”

Bydd yr enillion yn caniatau i’r Llywodraeth roi cyllid i gynghorau er mwyn talu am gost y bathodynnau newydd.

“Mae pobol anabl yng Nghymru bron i ddwywaith fwy tebygol na phobol eraill i fyw mewn cartrefi incwm isel, ac maen nhw’n wynebu costau ychwanegol  wrth reoli eu hanableddau, a allai wthio unigolion i mewn i dlodi pellach.”

Bydd y bathodynnau newydd wedi cael eu dylunio’n wahanol, er mwyn ei gwneud hi’n anoddach eu copio, a bydd y rheiny sy’n gymwys am y bathodynnau hefyd yn cael ei ymestyn i gynnwys cyn filwyr sydd wedi eu hanafu, a phlant dan dair oed sy’n gorfod cael offer meddygol wrth law.