Guto Bebb
Mae AS Ceidwadol wedi mynnu diwedd i’r drefn ‘strike now, pay later’ yn dilyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gytuno i beidio tynnu diwrnod o gyflog y rhai fu ar streic tan ar ôl y Nadolig.

Dywedodd Guto Bebb  wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw fod llawer o awdurdodau wedi cytuno i alwadau undebau i beidio tynnu’r arian o gyflogau streicwyr tan fis Ionawr neu Chwefror.

Mae Guto Bebb yn poeni am effaith gohirio cymryd yr arian, ac yn credu ei fod yn enghraifft bellach o’r hyn mae’n ei weld fel ffafriaeth i weithwyr y sector cyhoeddus ar draul gweithwyr y sector preifat.

Fe ofynodd Guto Bebb  heddiw beth yw safiad  y Llywodraeth  ar “ddefnyddio cyllid trethdalwyr” i streicio nawr a thalu amdano’n hwyrach.

Dywedodd gweinidog y Llywodraeth yn San Steffan Syr George Young ei fod yn cytuno gyda Guto Bebb – “na fyddai’n briodol i dalu pobl am waith nad ydyn nhw wedi’i wneud amser yma o’r flwyddyn nac unrhyw amser arall o’r flwyddyn.”

Cais yr undebau

Ond yn ôl Unsain mae undebau wastad yn trafod pryd yw’r adeg orau i gymryd arian am ddiwrnod streicio o gyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus.

“Oherwydd mai dyma’r paced pae olaf cyn ‘Dolig, mae’n naturiol bod Undebau Llafur yn gofyn am dynnu’r arian ar ôl y Nadolig,” meddai Dominic MacAskill, Prif Swyddog Ymgyrch Pensiynau Unsain.

Ond nid yw pob corff cyhoeddus wedi cytuno i gais yr undebau.

“Mi wnaethon ni dderbyn cais gan Unsain i ohirio tynnu’r cyflog streicio allan tan fis Chwefror,” meddai llefarydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gogledd.

“Ond am resymau llwydraethiant fe fyddai hynny’n amhriodol ac fe fyddwn ni’n tynnu’r cyflog allan ym mis Rhagfyr.”