Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog tros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi galw “am atebion ar unwaith gan CBAC.”

Daw hyn wedi iddo ddod i’r amlwg bod bwrdd arholi Cymru, CBAC, ynghanol honiadau tros roi cymorth annheg i athrawon.

Y cwmni elusennol o Gaerdydd yw un o’r llond llaw o gyrff sy’n cael eu cyhuddo mewn stori gan bapur y Daily Telegraph. Ond mae yntau wedi gwadu’r honiadau.

Mae’r papur yn dyfynnu dau o arholwyr CBAC – Cyd-bwyllgor Addysg Cymru gynt – yn siarad mewn seminar i athrawon yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn datgelu beth fydd meysydd rhai o’r cwestiynau mewn arholiad.

Roedd hynny, meddai’r Daily Telegraph, yn cynnwys egluro bod y prif gwestiwn mewn un papur yn dilyn patrwm o flwyddyn i flwyddyn a datgelu tro pa faes oedd hi eleni.

Eisoes, mae CBAC wedi dweud y byddent yn cynnal ymchwiliad brys i honiad bod arholwyr wedi rhoi help annheg i athrawon. Fe fydd hynny’n cynnwys galw un o’r arholwyr i mewn i gael ei holi’r bore yma.

‘Atebion’

“Rydym yn ymwybodol o’r honiadau hyn ac mae’r Gweinidog wedi galw am atebion ar unwaith gan CBAC,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried honiadau o gamymddwyn yn ddifrifol. Rydym yn gweithio gyda’r rheoleiddwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod cymwysterau yn rhoi arwydd teg a dibynadwy o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth fel y gall y cyhoedd gael hyder yn y system gymwysterau,” meddai’r llefarydd.

Dywedodd bod rheoleiddwyr yn cysylltu â’i gilydd a gyda’r cyrff dyfarnu dan sylw i gael “darlun mwy cyflawn o’r hyn sydd wedi digwydd.”

Yna, fe fyddan nhw’n cymryd “unrhyw gamau priodol yn brydlon ac yn gyson ar draws y tair gwlad,” meddai.“Os oes tystiolaeth o gamymddwyn, bydd y rheoleiddwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gymryd camau…”

“Rydym yn deall bod CBAC yn ymchwilio i honiadau penodol a wnaed gan y Daily Telegraph ynghylch datganiadau a roddwyd gan uwch arholwyr mewn digwyddiadau hyfforddi yn ddiweddar.”