Meirion Prys Jones
Sut gall ieithoedd lleiafrifol ffynnu yn y byd darlledu, a beth yw’r cyswllt rhwng darlledu a hyrwyddo iaith? Dyma’r ddau gwestiwn fydd dan sylw mewn cynhadledd arbennig a drefnir ar y cyd rhwng y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol ac S4C yr wythnos hon.

Heddiw ac yfory, bydd gwleidyddion, darlledwyr ac academyddion o Iwerddon, Gwlad y Basg, yr Alban, Valencia, y Ffindir a Chymru yn dod at ei gilydd yng Nghaerdydd i drafod y cwestiynau hyn.

Bydd cyfranwyr yn rhannu syniadau ac arferion da am sut y gall ieithoedd lleiafrifol ddal eu tir ar y teledu ac yn y cyfryngau newydd.

‘Trafod yr heriau’

Yn ôl Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chadeirydd y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, Meirion Prys Jones, nod y gynhadledd yw dod â darlledwyr a chomisiynwyr rhaglenni ar draws Ewrop at ei gilydd i “drafod yr heriau sy’n wynebu’r cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol ac i drafod y manteision a’r buddion posibl o gydweithio ar lefel Ewropeaidd”.

“Mae dylanwad cymdeithasol a diwylliannol y cyfryngau yn un dwfn, a nod y gynhadledd yn y pendraw, wrth gwrs, yw trafod sut gall darlledwyr gynyddu a gwella’r ddarpariaeth sydd ar gael i’r cyhoedd yn y gwahanol ieithoedd, fel bod siaradwyr yr ieithoedd hynny yn dewis edrych ar y teledu neu ar raglen ar y we mewn iaith leiafrifol,” meddai Meirion Prys Jones.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: “Mae’n rhaid i ieithoedd lleiafrifol gael eu defnyddio a’u clywed ar bob llwyfan os ydyn nhw i barhau’n berthnasol i bobl – ond beth yw’r berthynas rhwng yr her yma a her draddodiadol y darlledwr o greu cynnwys deniadol i’w fwynhau ar sgrin fawr?  Bydd y gynhadledd yma’n gyfle amserol iawn i drafod a rhannu gweledigaeth,” meddai .