Mae bwrdd arholi Cymru, CBAC, ynghanol honiadau tros roi cymorth annheg i athrawon.

Y cwmni elusennol o Gaerdydd yw un o’r llond llaw o gyrff sy’n cael eu cyhuddo mewn stori gan bapur y Daily Telegraph. Ond mae yntau wedi gwadu’r honiadau.

Mae’r papur yn dyfynnu dau o arholwyr CBAC – Cyd-bwyllgor Addysg Cymru gynt – yn siarad mewn seminar i athrawon yn ne-ddwyrain Lloegr ac yn datgelu beth fydd meysydd rhai o’r cwestiynau mewn arholiad.

Roedd hynny, meddai’r Daily Telegraph, yn cynnwys egluro bod y prif gwestiwn mewn un papur yn dilyn patrwm o flwyddyn i flwyddyn a datgelu tro pa faes oedd hi eleni.

Yn ôl y papur, roedd un o’r ddau wedi dweud, “R’yn ni’n twyllo … mae’n debyg y bydd y rheoleiddiwr yn dweud y drefn.”

Ymchwiliad

Yn Lloegr, mae’r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, wedi gofyn i’r rheoleiddiwr, Ofqual, gynnal ymchwiliad ac adrodd yn ôl o fewn pythefnos.

Mae’r papur hefyd yn dyfynnu llefarydd ar ran CBAC yn dweud bod yr wybodaeth a roddwyd yn y seminar ar gael ar y We a bod defnyddio’r gair “twyllo” yn anghywir.

Ond mae hefyd yn dweud y bydd y cwmni’n ymchwilio ymhellach.

Y cefndir

Nid Cyd Bwyllgor Addysg Cymru  oedd yr unig un; mae’r Telegraph yn honni bod ei newyddiadurwyr wedi bod mewn 13 o seminarau gan wahanol gwmnïau arholi, lle’r oedd athrawon yn talu cymaint â £230 y dydd.

Y cefndir yw’r gystadleuaeth rhwng y gwahanol gwmnïau am fusnes; mae ysgolion yn dewis pa fwrdd arholi i’w ddilyn.

Yn ddiweddar, mae CBAC, sy’n eiddo i awdurdodau addysg Cymru, wedi bod yn cystadlu yn erbyn byrddau arholi Lloegr am fusnes yno.

Yn ôl y papur, mae’r helynt tros y seminarau’n rhan o’r pryder fod arholiadau’n mynd yn haws a haws.