Llun: Dirk van As
Mae cynhyrchwyr Frozen Planet wedi cadarnhau heddiw y bydd rhaglen olaf y gyfres yn cael ei darlledu yn yr Unol Daleithiau, er gwaetha’r pryder y bydd yn cynhyrfu’r dyfroedd ynglŷn â chynhesu byd eang.

Cyhoeddodd y Discovery Channel neithiwr y byddai’r seithfed bennod, sy’n edrych yn benodol ar effaith toddi’r haenen iâ yn yr Ynys Las, yn cael ei darlledu yn yr Unol Daleithiau, ynghyd â’r chwe phennod arall, ym mis Mawrth 2012.

Roedd cwestiynau wedi codi ynglŷn â darlledu’r seithfed bennod, gan fod cynhesu byd eang yn fater gwleidyddol sensitif iawn mewn sawl gwlad.

Roedd y cynhyrchwyr – BBC a Discovery – hefyd wedi rhoi’r opsiwn i gwmniau rhyngwladol i brynu’r chwe phennod gyntaf, a phrynu’r seithfed bennod yn ychwanegol, os oedden nhw’n dymuno.

Ond yn ôl un fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen, a’r drafodaeth, yn y bennod sydd i’w darlledu heno, fe fyddai’n “drueni mawr petai nhw ddim yn ei dangos.”


Dr Alun Hubbard
Mae Dr Alun Hubbard, sy’n rewlifegydd blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn ymchwilio i sefyllfa’r haenen iâ ar yr Ynys Las ers 2007, ac mae graddfa’r toddi yn fater o bryder mawr iddo ef.

“Mae’r iâ yn toddi yn gyflymach o hyd ar yr Ynys Las,” meddai wrth Golwg 360, “ac mae ardaloedd arfordirol mewn sawl rhan o’r blaned mewn perygl difrifol iawn oherwydd y cynnydd yn lefel y moroedd oherwydd toddi’r iâ.”

Yn ôl y rhewlifegydd, sy’n hanu o dref arfordirol Borth ger Aberystwyth, mae toddi’r haenen iâ ar yr Ynys Las yn cyfrannu tuag at gynnydd o 0.7mm yn lefel y moroedd bob blwyddyn. Mae rhai gwyddonwyr wedi rhoi’r lefel hyd yn oed yn uwch, ar 1mm y flwyddyn.

“A dim ond o’r Ynys Las mae’r ystadegau hynny,” meddai Dr Alun Hubbard, sy’n dweud bod toddi’r iâ yn broblem sydd i’w weld yn nau begwn y byd.

“Y môr yw sinc eithaf y byd,” meddai’r rhewlifegydd, “ac mae graddfa’r toddi yn  cynnyddu o hyd.”

Bydd Dr Alun Hubbard, sydd wedi bod yng nghlwm wrth ffilmio’r gyfres Frozen Planet oherwydd ei waith ymchwil estynedig ar haenen iâ yr Ynys Las, yn trafod ei bryderon am doddi’r iâ ar y rhaglen heno.

“Does dim byd dadleuol yn yr hyn rydw i’n ei ddweud,” meddai, “y cyfan dwi’n ei wneud yw adrodd yn ôl ar yr hyn dwi’n ei weld.”

Ond mae’n dweud ei fod yn deall pam fod cynhesu byd eang yn fater gwleidyddol sensitif iawn – gan fod corff cryf o wyddonwyr yn credu bod allyriadau carbon yn cyfrannu’n fawr at gynhesu yn nhymheredd y byd.

“Mae pobol wedi eu rhannu ar bob pegwn ynglŷn â niwed ynni carbon,” cyfaddefa Dr Alun Hubbard.

“Dydi’r Unol Daleithiau ddim yn hoffi’r drafodaeth am fod Barack Oabama o blaid carbon, ac o blaid diwydiant. Fe fyddai rhoi cap ar lefelau CO2 yn niweidio diwydiant,” meddai.

“Ond dyna pam fod newid i ynni cynnaladwy yn gwneud synnwyr perffaith i fi.”

Fe fydd pennod olaf y gyfres Frozen Planet, On Thin Ice, yn cael ei darlledu heno am 9pm, ar BBC 1.