Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i rywrai daflu concrit ar geir yng Nghaerdydd.

Roedd yr heddlu wedi cael adroddiadau am ddifrod troseddol i gar Mini Cooper a Vauxhall Corsa ddydd Sul, 4 Ragfyr tua 3 pm, ar ôl i rywun daflu  concrit ymhlith pethau eraill i lwybr y ceir oedd yn teithio i’r de ar ffordd yr A4232 rhwng twnelau Butetown.

Roedd rhai wedi taflu rwbel concrid, hen garped a chadair  i  lwybr ceir gan dorri ffenest flaen y Mini Cooper a drws car y Vauxhall Corsa. Roedd rhaid i Ford Fiesta droi’n sydyn i osgoi’r rwbel ar y ffordd.

Mae’r heddlu’n pwysleisio fod y gweithredoedd hyn yn “beryglus ac yn dwp iawn”.

“Diolch byth na chafodd unrhyw un eu hanafu. Ond, gallai’r sefyllfa fod yn wahanol iawn gydag anafiadau difrifol a gwrthdrawiadau traffig,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae dau fachgen 13 blwydd oed o ardal Grangetown, Caerdydd wedi’u harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Fe ddylai unrhyw un welodd yr eitemau hyn yn cael eu taflu o ochr y ffordd, neu a welodd unrhyw un yn cario’r eitemau hyn gysylltu gyda’r Heddlu ar 0800 555111.