Llun llyfrgell o felin wynt (jfz CCA 3.0)
Mae protestwyr yn apelio ar i bobol leol gofrestru er mwyn gwrthwynebu fferm wynt fawr yng ngorllewin Cymru.

Fory, fe fydd y Comisiwn Cynllunio Seilwaith yn dechrau ar gyfnod o ymgynghori am fwriad cwmni RWE Npower i godi 28 melin wynt yng Nghoedwig Brechfa i’r gogledd o Gaerfyrddin.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi eu bod yn symud ymlaen gydag ail gam y drafodaeth ar y cynllun, er gwaetha’ gwrthwynebiad gan garfanau o bobol leol.

Dim ond pobol sy’n cofrestru sy’n gallu gwrthwynebu, meddai Caroline Evans o Grŵp Gweithr4edu Ynni Coedwig Brechfa. Mae’r dyddiad cau ar 18 Ionawr.

Oherwydd fod y cynllun ar gyfer 28 tyrbin sy’n gallu cynhyrchu hyd at 84MW, mae’n rhy fawr i gael ei ystyried gan y cyngor lleol na’r Cynulliad.

Yn ôl Caroline Evans, mae amheuaeth fod y Comisiwn yn ceisio brysio gyda’r penderfyniad cyn y bydd y corff yn cael ei ddileu gan ddeddfwriaeth newydd.

Cyhuddo’r Comisiwn

Mae hi’n cyhuddo’r Comisiwn – yr IPC – o anwybyddu adroddiad gan y Cyngor Sir yn beirniadu dulliau ymgynghori’r cwmni ac yn dweud eu bod wedi tanliwio effaith y datblygiad ar dwristiaeth a’r economi.

“Un o’n prif wrthwynebiadau ni fydd sŵn,” meddai Caroline Evans, sy’n dweud ei bod wedi synnu at benderfyniad yr IPC. “Mae datblygiad arall cyfagos gyda deg melin eisoes yn achosi problemau difrifol.

“Fe fyddwn ni hefyd yn gwrthwynebu oherwydd yr effaith ffisegol. Fe fydd yn cael effaith ar y dirwedd a hynny yn ei dro yn effeithio ar economi’r ardal.”