John Healey
Mae Ysgrifennydd Iechyd yr wrthblaid wedi anfon neges yn galw ar ASau Llafur yng Nghymru i feirniadu’r toriadau yng nghyllideb iechyd y wlad – heb sylweddoli mai Llafur sydd mewn pŵer yno.

Mae’r Ceidwadwyr yn honni eu bod nhw wedi cael gafael ar lythyr sy’n dangos bod y Blaid Lafur wedi bwriadu ymosod ar eu polisi eu hunain yng Nghymru.

Anfonwyd llythyr gan Ysgrifennydd Iechyd yr wrthblaid, John Healey, yn galw ar Aelodau Seneddol Cymru i ryddhau datganiadau i’r wasg yn beirniadu’r cynlluniau i dorri’r gyllideb addysg yng Nghymru.

Yn y neges mae’n yn galw ar ASau Cymru i gondemnio’r “diffyg nawdd” a fydd yn “anfon y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am yn ôl”.

Mae’r Blaid Lafur mewn pŵer yng Nghymru, ynghyd â Phlaid Cymru, sy’n golygu y byddai’r datganiad i’r wasg wedi beirniadu eu polisi eu hunain.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad a Seneddol Alun Cairns, o’r Ceidwadwyr Cymreig, eu bod nhw’n gwrthwynebu cynlluniau’r Blaid Lafur i dorri cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ymosod ar gynlluniau Llafur ers misoedd,” meddai.

“Mae’n amlwg nad ydi John Healey yn gwybod unrhyw beth am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ond mae galw ar wleidyddion i ymosod ar bolisïau ei blaid ei hun yn gamgymeriad mawr hyd yn oed iddo ef.

“Rydyn ni’n croesawu sylwadau John Healey ac yn ei wahodd i ymgyrchu gyda ni yn erbyn toriadau’r Blaid Lafur yng Nghymru.”