Mae gwraig oedd yn honi nad oedd hi’n gallu cerdded heb faglau er mwyn hawlio budd-dal, ond wedi cael ei ffilmio  yn mynd i lawr sglefren ddŵr tra ar wyliau, wedi cael ei charcharu am 10 wythnos.

Cafodd Tina Attanasio ei ffilmio ar fideo gan ei theulu yn chwarae yn y dŵr tra ar wyliau yn Ne Ffrainc.

Roedd y fam i ddau o blant wedi cyfaddef iddi hawlio mwy na £19,000 o fudd-dal anabledd ar ôl i’w chyn-bartner roi’r fideo i ymchwilwyr twyll budd-dal.

Heddiw roedd Llys y Goron Caerdydd wedi gweld clipiau o’r fideo ohoni ar ei gwyliau tra ei bod hi hefyd yn hawlio’r swm uchaf o fudd-dal anabledd.

Mae’r budd-dal yn cael ei roi i’r rheiny sydd ag anabledd sy’n eu rhwystro rhag cyflawni tasgau bob dydd a sydd angen cymorth 24 awr y dydd.

Roedd y clipiau fideo yn dangos Attanasio, 51 oed,  yn dringo bryniau, yn neidio i lawr stepiau serth ac yn cerdded ar hyd y traeth.

Roedd Attanasio wedi honni ar y pryd ei bod hi’n “rhy wan” i gerdded heb ei baglau ac angen help i fynd i mewn ac allan o’r gwely yn ogystal â mynd i’r tŷ bach, a pharatoi bwyd.

Fe blediodd Attanasio, o’r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, yn euog i gyhuddiad o hawlio £19,374 o fudd-dal drwy dwyll rhwng Awst 2005 a Chwefror 2010. Roedd hi’n mynnu ei bod yn cael “dyddiau da a drwg”.

Dywedodd ei bargyfreithiwr Jennet Treharne: “Roedd y fideos yn amlwg wedi eu cymryd ar ddyddiau da pan oedd y tywydd poeth wedi lleddfu’r boen yn ei chefn.”

Dywedodd y barnwr Nicholas Cooke QC bod yn rhaid ei dedfrydu am fod twyll budd-dal “mor hawdd i’w gyflawni ond mor anodd i’w brofi.”

Ychwanegodd er nad oedd hi wedi “hawlio budd-dal drwy dwyll o’r cychwyn roedd y twyll wedi ei gyflawni dros gyfnod hir o amser.”

Mae disgwyl i ymchwiliad arall gael ei gynnal nawr ac mae’n bosib y bydd Attanasio yn cael gorchymyn i dalu’r arian yn ôl.