Dydi pryderon nyrsys ynglŷn â gofal cleifion ddim yn cael eu clywed gan y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl casgliadau arolwg newydd y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Mae hanner y nyrsys sydd wedi cwyno wrth eu cyflogwr oherwydd lefelau staffio a digelwch cleifion wedi cael eu hanwybyddu, heb gymryd unrhyw gamau i ymateb i’r sefyllfa.

Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, mae mwy nag 80% o nyrsys wedi codi pryderon gyda’u cyflogwyr ynglŷn â gwahanol agweddau o’u gwaith, ond bod y diffyg ymateb yn tanseilio parodrwydd nyrsys i ddweud eu dweud.

Mae’r arolwg o 3,000 o aelodau’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn dangos eu bod wedi mynegi eu pryderon wrth eu cyflogwyr er bod y mwyafrif llethol ohonoyn nhw, 84%, yn poeni y byddai canlyniadau iddyn nhw’n bersonol ac i’w gyrfa wrth siarad allan.

“Pan nad yw pethau’n rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon, mae’n holl bwysig bod staff gofal iechyd ar bob haen yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderfon ynglŷn â gofal cleifion gyda’u rheolwyr,” meddai Tina Donnelly, Cyfarwydwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru.

Mae’r sefyllfa yn gwaethygu hefyd, yn ôl ystadegau’r Coleg Nyrsio. Yn 2009, dangosodd yr arolwg y byddai 43% yn hyderus i nodi pryderon heb feddwl dwywaith, ond erbyn 2010 mae’r ffigwr hwnnw wedi disgyn i 35%.

Yn ôl yr arolwg, pwysau gwaith a staffio yw dau o’r brif bethau sy’n cyfrannu at bryderon yn y gweithle i nyrsys, ac mae 47% yn dweud eu bod wedi gweld nifer y nyrsys yn eu gweithle yn disgyn yn ddiweddar.

Mae hi hefyd yn ymddangos fod nyrsys yn cael ey hannog i gadw’n dawel gydag unrhyw gwynion ynglŷn â’u gweithle, gyda 43% o nyrsys wedi cael eu hannog i beidio â chodi eu pryderon gyda’u cyflogwyr – sy’n gynnydd o 21% yn 2009.

Mae’r ystadegau’n dangos mai dim ond 35% o nyrsys fyddai’n teimlo’n hyderus o gael eu gwarchod gan eu cyflogwr petai nhw yn penderfynu nodi eu pryderon.

Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol nawr yn annod aelodau i drafod eu pryderon gyda’r Coleg Nyrsio trwy linell gymorth cyfrinachol, a all gynnig help a chefnogaeth i nyrsys sydd eisiau tynnu sylw at eu pryderon.