Dolgellau
Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a dynes ger Dolgellau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 yn Llanelltud. Fe fu farw dynes leol yn y fan a’r lle.

Cafodd y gwasanaethau bryd eu galw toc wedi 6am heddiw. Bu’n rhaid cau’r ffordd am chwe awr wrth i’r heddlu ymchwilio.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 0300 3300101.