Aethpwyd a gyrrwr a cherdded i’r ysbyty ar ôl i gar daro tŷ ym mhentref Nelson yng nghymoedd y de.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Shingrig yn y pentref ger Caerffili am 8.40pm neithiwr.

Aethpwyd a’r gyrrwr gwrywaidd a’r cerddwr benywaidd i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Roedd y tŷ wedi ei ddifrodi ac roedd nwy yn gollwng, yn ôl y gwasanaethau achub. Mae peiriannydd strwythurol a swyddog nwy wedi bod yno i asesu’r difrod.