Alan Bowen
Mae’r heddlu ym Mhontypridd wedi galw am wybodaeth yn dilyn pryderon am ddiogelwch dyn 54 oed.

Does neb wedi gweld Alan Bowen, o Gilfynydd ym Mhontypridd, ers iddo adael ei gartref am 10am ddydd Iau.

Roedd ganddo apwyntiad ynghanol tref Pontypridd ond gyrhaeddodd o ddim.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn wyn, chwe throedfedd, â gwallt wedi britho ac acen leol.

Roedd yn gwisgo crys coch a throwser glas, ac yn gyrru car gwyn Mitsubishi L200.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth amdano ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.