gary
Gary Speed
Neithiwr fe fu cefnogwyr Leeds United, clwb cyntaf Gary Speed, yn talu teyrnged go arbennig i’r gŵr a fu farw ddydd Sul, yn ystod eu gêm yn erbyn Nottingham Forrest neithiwr.

Roedd Speed yn gwisgo crys rhif 11 tra’n chwarae i Leeds, ac er cof am y seren roedd y cefnogwyr wedi penderfynu canu ei enw am 11 munud, gan ddechrau ar ôl 11 munud o’r gêm.

Roedd yn weithred addas a chofiadwy, ac yn rhyfedd iawn fe sgoriodd Leeds eu gôl gyntaf o’r noson ym munud olaf y cyfnod, gan fynd ymlaen i ennill o 4-0.

Gallwch wylio’r deyrnged, a dathliadau’r gôl ar y fideo isod.

Trefniadau teyrnged Newcastle

Mae un arall o gyn glybiau Speed hefyd wedi cyhoeddi eu teyrnged nhw i’r chwaraewr.

Bu Speed yn chwarae i Newcastle rhwng 1998 a 2004, ac roedd yn ffigwr poblogaidd ymysg cefnogwyr y clwb.

Bydd clawr rhaglen eu gêm yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn yn dangos llun o’r chwaraewr canol cae a bydd pedair tudalen o deyrnged yng nghanol y rhaglen.

Mae’r clwb hefyd wedi trefnu canwr arbennig i arwain y 52,000 o gefnogwyr wrth ganu’r emyn Gymreig, Bread of Heaven cyn y gêm.

Wrth i’r emyn gael ei chanu, bydd y cefnogwyr yn eisteddle’r Dwyrain o St James’ Park yn codi cardiau du a gwyn er mwyn datgelu’r rhif 11 (y rhif crys oedd gan Speed yno hefyd), a bydd munud o gymeradwyaeth yn dilyn.

Galw am gêm gyfeillgar er cof

Yn y cyfamser mae cyn gôl geidwad Cymru ac Everton, Neville Southall wedi gofyn ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru i drefnu gêm gyfeillgar arbennig i dalu teyrnged i’w rheolwr.

Southall yw’r unig chwaraewr sydd â nifer uwch o gapiau i Gymru na Speed.

“Fe fuaswn wrth fy modd yn eu gweld nhw’n chwarae gêm yn ystod wythnos ryngwladol yn erbyn chwaraewyr o’i gyn glybiau” meddai Southall.

“Dod â rhai o hogiau Newcastle lawr [i’r gêm], rhai o Everton, Bolton, Sheffield United a Leeds.”

“Dyna fyswn i’n hoffi ei weld – stadiwm y Mileniwm yn llawn dop er mwyn i bawb allu talu teyrnged. Byddai hefyd yn braf petai modd enwi gwobr chwaraewr y flwyddyn ac eisteddle yn y stadiwm er cof amdano.”