Mae rhieni wedi mynegi eu pryder heddiw nad yw’r angen am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu gan gynlluniau ar gyfer ysgolion newydd yng Nghymru.

Yn ôl mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), mae awdurdodau lleol sy’n gwneud cais i’r Llywodraeth am arian ar gyfer ysgolion newydd nawr yn blaenoriaethu lleihau llefydd gwag mewn ysgolion dros ddarpariaeth Gymraeg.

Yn ôl y mudiad, mae hyn yn ymateb i’r ffaith fod y Llywodraeth nawr yn rhoi “pwyslais blaenllaw ar leihau llefydd gweigion mewn ysgolion.”

Roedd nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfraniad o 70% at gost yr ysgolion newydd o dan gynllun ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’. Ond mae nifer o awdurdodau wedi gorfod ail-lunio’r ceisiadau hynny ers mis Gorffennaf, wedi i’r Gweinidog Addysg gyhoeddi mai dim ond cyfraniad o 50% i gost ceisiadau llwyddiannus fydd nawr yn cael ei wneud.

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad eu bod nhw’n “deall yr angen cyffredinol i fynd i’r afael â lleihau llefydd gwag,” ond fod “rhaid tynnu sylw at y ffaith nad yw’r gofyniad hwn yn uniongyrchol berthnasol i sefyllfa’r ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn ol y mudiad, mae angen “arian ychwanegol ar ysgolion Cymraeg sy’n gorlenwi, er mwyn ehangu’r ysgolion hynny neu i fynd ati i adeiladu ysgolion newydd.”

‘Ddim yn ateb galw’r dyfodol’

Yn ôl y mudiad, maen nhw’n pryderu y gallai’r pwyslais ar lenwi llefydd gwag ddal addysg Gymraeg yn ôl. Mae “galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg,” yn ôl y mudiad, sy’n gofyn i’r Llywodraeth feddwl tuag at y dyfodol, yn hytrach na dim ond diwallu’r anghenion presennol.

“Mae sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru’n hanfodol er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol ddiwallu’r galw hwnnw,” meddai llefarydd ar ran y mudiad.

“Pryderwn felly fod siawns i’r rhaglen osod y sector cyfrwng Cymraeg dan anfantais o’r cychwyn cyntaf os mai lleihau llefydd gwag yw’r prif faen prawf tra’n sgorio ceisiadau.”

Mae’r mudiad hefyd yn rhybuddio’r Llywodraeth y bydd “penderfyniadau a wneir o safbwynt dosbarthu cyllid y rhaglen yn cael effaith uniongyrchol ar ddymuniad rhieni i addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sawl rhan o Gymru.

“Mae goblygiadau hefyd wrth gwrs o ran cyflawni egwyddorion craidd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth,” meddai’r mudiad.

Gofyn i’r Gweinidog

Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg nawr wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn gofyn iddo egluro’i flaenoriaethau ar gyfer cefnogi ceisiadau am arian i ysgolion dan gynllun ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’.

“Mae’r mudiad wedi gofyn i’r Gweinidog am eglurhad ar statws addysg cyfrwng Cymraeg o safbwynt meini prawf dyrannu cyllid i’r awdurdodau unigol o fewn y rhaglen, pa feini prawf penodol sydd mewn lle ar gyfer ehangu addysg Gymraeg ynghyd â natur y drafodaeth rhwng Uned Datblygu’r Iaith Gymraeg o fewn y llywodraeth a’r Uned sy’n arwain ar y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wrth bwyso a mesur y cynigion.”