Posteri streic (o wefan Unison)
Fe fydd deg o ralïau’n cael eu cynnal heddiw yng Nghymru gan weithwyr cyhoeddus sydd ar streic.

Mae’r cyfan yn digwydd rhwng canol y bore ac amser cinio, gyda’r undebau’n disgwyl miloedd i orymdeithio.

Mae undeb Unison Cymru, er enghraifft, yn galw ar weithwyr i sicrhau mai dyma fydd y brotest fwyaf erioed gan weithwyr.

Ymhlith yr ymateb cyntaf i’r streic, mae’r undebau yng Nghaerdydd yn hawlio bod 14 o lyfrgelloedd ar gau ynghyd â Neuadd y Ddinas, Twnnel Bute, ysgolion a’r holl barciau cyhoeddus.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r holl ysgolion ar gau, yn ôl yr undebau, ac mae staff cefnogi’n streicio yn y gwasanaeth ambiwlans a heddlu – yn ôl staff heddlu Doc Penfro, mae eu cydweithwyr mewn iwnifform hefyd yn eu cefnogi.

Manylion y ralïau

Mae’r ralïau’n cael eu trefnu gan yr undebau eu hunain neu weithiau gan fudiadau ymbarél sy’n ymgyrchu yn erbyn toriadau’r Llywodraeth.

Dyma’r trefi yng Nghymru lle mae’r ralïau’n digwydd – Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Caerfyrddin, Hwlffordd, Llandrindod, Merthyr Tudful, Wrecsam a’r Wyddgrug.