Fe gafodd deiseb ei chyflwyno yn y senedd ddoe yn gofyn i Lywodraeth Cymru am arian er mwyn sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg newydd.

Mae Rheini dros Addysg Gymraeg yn galw am hyn ar ôl gweld cynnydd yn ardal Caerffili yn y nifer sydd eisiau addysg Gymraeg. “Mae yna ysgol wag yn nhre Caerffili sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd. Mae’r cyngor lleol yn fodlon codi £10 miliwn sef hanner y gost o ddod â’r adeiladau yna i fyny i safon. Pe bydden ni yn gwneud hyn mi fydde lle gyda ni i’r plant am y blynyddoedd i ddod.

“Os na wnawn nhw hwn a bod yr ysgol yn dirywio bellach a bod rhaid i ni ddymchwel hi, bydd y gost wedyn yn y tymor hir o leiaf dwywaith gymaint â hynny,” meddai Ben Jones cadeirydd sirol RhAG.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r £10m  tuag at y swm gan y cyngor er mwyn adnewyddu yr hen adeiladau ar y safle gan ddweud fod Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn llawn yn barod.

“Dydyn ni ddim eisiau gor-lenwi Ysgol Cwm Rhymni. Mae’n ysgol fawr. Yn barod mae dros  bymtheg cant o blant yno. Beth sydd eisiau yw ail ysgol gyfun erbyn hyn a honna yng Nghaerffili, achos yn y blynyddoedd i ddod bydd agos i gant a hanner o blant yn dod o ysgolion cynradd ardal Caerffili, hynny yw tref Caerffili a’r pentrefi o gwmpas, nid Sir Caerffili nawr. A bydd rheini yn llenwi ysgol gyfun eu hunain.”

Dywed Ben Jones ei bod  yn gyfle rhy dda i golli ac os na fydd yna ysgol newydd yn cael ei sefydlu y gallai’r oblygiadau fod yn ddifrifol.  

“Roedden ni wedi hoelio ein gobeithion ar rhaglen ysgolion unfed ganrif ar hugain. Ond, wrth gwrs, does dim dime goch wedi dod o hynny. Mae’r Gweinidog wedi dweud fod yna ddim yn mynd i fod tan 2014. Wel, a yw’r ysgol yma nawr yn mynd i ddirywio am dair blynedd arall tra bod nhw yn gwastraffu amser yn gwneud ryw ddarpariaeth dros dro? Neu yn waeth byth, dydyn ni ddim eisiau meddwl hyn, bod plant yn cael eu gwrthod lle mewn ysgol Gymraeg. Dyna’r gofid pennaf wrth gwrs.”

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i’r Pwyllgor Deisebau gyda mil o enwau arni.