Prifysgol Glyndwr - wedi ei hachub am y tro (Geoff Evans CCA 2.0)
Fe gafodd y Gweinidog Addysg ei gyhuddo o orfodi newidiadau ar brifysgolion Cymru ac o ystumio’r dadleuon o blaid hynny.

Ond mae eraill wedi croesawu penderfyniadau Leighton Andrews wrth iddo weithredu i dorri nifer prifysgolion Cymru i saith.

Mewn datganiad ddoe, fe ddywedodd y dylai tair o brifysgolion de Cymru uno, er gwaetha’ gwrthwynebiad.

Ond mae prifysgolion Bangor, Aberystwyth a Glyndŵr wedi ennill eu brwydrau i aros yn annibynnol a’r Drindod Dewi Sant wedi cael cefnogaeth i’w cynlluniau i uno gyda Met Abertawe a Phrifysgol Cymru.

Yn erbyn ‘uno gorfodol’

Fe ddaeth y feirniadaeth gan lefarydd addysg y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, sy’n dweud eu bod o blaid rhagor o gydweithio ond yn erbyn uno gorfodol.

“Dylai perchnogaeth y cynlluniau aildrefnu fod yn fater i’r prifysgolion a’u myfyrwyr yn hytrach na gorchymyn o’r canol gan Weinidogion,” meddai Angela Burns.

“Fe allai uno gorfodol gael effaith negyddol ar enw da’r sefydliadau unigol, ar geisiadau am lefydd ac ar ysbryd.”

Roedd yn cyhuddo Leighton Andrews o orliwio’r angen am uno ond mae’r Gweinidog yn dweud bod y Llywodraeth “wedi ymrwymo i gael nifer fach o brifysgolion cryfach, sy’n fwy cynaliadwy ac mewn gwell sefyllfa i ddiwallu anghenion dysgwyr a’r economi yng Nghymru”.

Mae’r penderfyniadau ar ôl cyfnod ymgynghori yn dangos fod yr hen brifysgolion traddodiadol wedi llwyddo i rwystro unrhyw bwysau i uno.

Ennill a cholli

Mae’r ymgyrch gan ACau ac ASau Llafur y Gogledd-ddwyrain wedi llwyddo i atal cynllun i roi Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam o dan adain Bangor ac Aberystwyth.

Fe fyddai’r uno yn y De-ddwyrain yn digwydd er gwaetha’ gwrthwynebiad cry’, yn enwedig gan Brifysgol Fetropolitaidd Caerdydd – UWIC gynt.

Yn ôl Leighton Andrews, mae yna ddadleuon cryf tros yr uno ac fe fydd cyfnod o ymgynghori.

Manylion yr argymhellion

  • Fe ddylai Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe barhau’n annibynnol gan gydweithio mwy.
  • Fe ddylai Bangor ac Aberystwyth barhau i ddatblygu eu partneriaeth, ond heb uno ar hyn o bryd.
  • Fydd dim disgwyl i Brifysgol Glyndwr uno gyda Bangor ac Aberystwyth ac fe fydd arolwg o addysg uwch yn y Gogledd-ddwyrain.
  • Fe ddylai prifysgolion Morgannwg, Casnewydd a Metropolitan Caerdydd uno gyda sawl campws, gan gynnwys rhai yn y Cymoedd.
  • Fe ddylai’r Drindod Dewi Sant a Metropolitan Abertawe barhau gyda’r broses o  uno a chymryd gofal am Brifysgol Cymru.