Mae’r streic fwyaf ers mwy na 30 mlynedd wedi dechrau wrth i hyd at ddwy filiwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus weithredu’n ddiwydiannol oherwydd newidiadau i’w pensiynau.

Fe fydd hyd at 90% o ysgolion yng Nghymru ar gau ac mae disgwyl i ysbytai, canolfannau hamdden, llysoedd, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a thrafnidiaeth gael eu hamharu gan y streic.

Roedd nyrsys, parafeddygon, glanhawyr, a phorthorion mewn ysbyty yn Birmingham ymhlith y rhai oedd wedi dechrau streicio am hanner nos.

Mae streicwyr yn bwriadu picedu tu allan i filoedd o ysgolion, ysbytai, canolfannau gwaith, llysoedd ac adeiladau eraill y llywodraeth tra bod mwy na 1,000 o ralïau yn cael eu cynnal ar hyd y DU.

Mae disgwyl ciwiau hir ym maes awyr Heathrow, ac fe fydd twnelau’r Mersi yn cau, gan amharu ar drefniadau teithio 80,000 o yrwyr sy’n eu defnyddio bob dydd.

Dywedodd John Longworth, cyfarwyddwr Siambr Fasnach Prydain bod y streicwyr yn “anghyfrifol” gan ychwanegu eu bod yn anwybyddu’r ffaith bod Prydain “yn gorfod gwneud ei ffordd mewn  byd cystadleuol.”

Streic – ‘Gweithwyr yn teimlo’n gryf iawn am y sefyllfa’

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud eu bod yn “siomedig” y bydd gweithredu diwydiannol heddiw – ond eu bod yn “deall fod gweithwyr yn teimlo’n gryf iawn am y sefyllfa.”

“Fe fydd y streic yn arwain at aflonyddwch sylweddol mewn gwasanaethau. Ond, fe fydd awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda undebau llafur lleol i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol i’r rhai sydd fwyaf bregus yn y gymdeithas yn parhau i weithredu,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

“Fodd bynnag, yn anochel – gyda graddfa’r gweithredu bydd llawer iawn o wasanaethau wedi cau yn arbennig ysgolion.”

NUT yn ymateb i’r streic

Mae Undeb athrawon mwyaf Cymru wedi datgan wedi dweud nad oedd ganddyn nhw ddewis ond mynd ar streic oherwydd “gweithredoedd afresymol” y Llywodraeth.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd NUT Cymru y byddai athrawon yn “colli symiau enfawr o’u pensiwn, ac yn cael eu gorfodi i weithio am sawl blwyddyn wedi oed ymddeoliad.”

“Gyda system bensiwn sy’n fforddiadwy, does dim cyfiawnhad dros yr ymosodiad yma ar gyflyrau byw,” meddai David Evans, Ysgrifennydd NUT.

“Fe ddylai pob AS sy’n methu cefnogi athrawon a phlant yn eu hetholaeth deimlo cywilydd  a disgwyl cael eu gweithredoedd wedi’u beirniadu yn yr etholiad.”

Fe ddywedodd Jennie Williams, athrawes gynradd yn ysgol Rhondda Cynon Taf ei bod yn “poeni’n fawr am weithredoedd y Llywodraeth.”

“Ar lefel bersonol, rydw i’n poeni’n arw am fod yn y sefyllfa lle dw i’n gorfod talu mwy, gweithio ar ôl oed ymddeoliad a derbyn llawer llai ar ôl ymddeol,” meddai.

UCAC

“Rydym ni fel undeb yn benderfynol o gael datrysiad derbyniol i’r anghydfod hwn – mae angen i Lywodraeth San Steffan ddangos ei bod hithau hefyd o ddifrif ynglŷn â’r trafodaethau,” meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC

“Bydd y diwrnod o weithredu yn arwydd diymwad o gryfder teimladau gweithwyr ar draws y sector cyhoeddus am y toriadau gwarthus hyn.”

Dywedodd na all yr Undeb dderbyn cynnig sy’n golygu bod “athrawon a darlithwyr yn talu cyfraniadau uwch, yn derbyn llai o bensiwn ac yn gorfod gweithio tan 68 oed cyn cael pensiwn llawn.”

“Mae’n hynny’n annerbyniol i staff ar ddiwedd eu gyrfa, yn annerbyniol i athrawon ifanc sy’n chwilio am swyddi ac yn gwbl annerbyniol i’n plant a myfyrwyr. Pwyswn ar y Llywodraeth i ddod â chynnig mwy rhesymol i’r Bwrdd cyn gynted â phosib,” meddai.

Bydd aelodau UCAC yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau a ralïau mewn trefi a dinasoedd ar draws Cymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud y bydd y gwasanaeth yn debyg i’r lefel a ddarperir ar ŵyl y banc.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwneud popeth yn ei allu i amddiffyn y ddarpariaeth fydd ar gael ac wedi cynllunio i sicrhau y bydd gofal a diogelwch cleifion yn parhau  yn ystod 24 awr y gweithredu diwydiannol,” meddai Mr Neil Bradshaw, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio.

Dywedodd fod y  rhan fwyaf o “dderbyniadau dewisol i’r ysbyty” wedi’u gohirio am y tro a’r mwyafrif o glinigau cleifion allanol wedi’u canslo.

Dywedodd y byddai’r derbyniadau brys a thriniaethau yn yr Adrannau Achosion Brys ac Unedau Mân Anafiadau yn parhau. Ond, oherwydd bod y gwasanaethau hyn yn brysur iawn  – mae’n annog cleifion  i feddwl yn ofalus cyn deialu 999 am ambiwlans brys neu fynd yn syth i’r Adran Achosion Brys (A&E).

Bydd meddygfeydd ar agor ac mae meddygon teulu yn gwybod na fydd gwasanaethau patholeg na radioleg ar gael iddyn nhw ar y diwrnod yma.   Bydd y Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau yng  Ngogledd Cymru yn darparu gwasanaeth gofal brys.

Bydd Llinell Gymorth ychwanegol ar gael ar 30 Tachwedd i helpu delio ag ymholiadau cyffredinol.  Y rhif ydy 01745 448288.