Morgan Parry
Mae Cymru i elwa o un corff amgylcheddol fydd yn sicrhau ei bod yn rheoli ei hadnoddau naturiol mewn ffordd “gynaliadwy ac effeithlon,” cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Fe gafodd y neges ei chyhoeddi gan John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, sydd wedi cytuno i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn un sefydliad.

Mae penderfyniad y Gweinidog yn dilyn naw mis o waith ymchwil gan swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y tri chorff a sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y sector.  Gwnaeth y Gweinidog ei benderfyniad wedi ystyried achos busnes manwl oedd yn asesu datblygu yn un corff amgylcheddol.

Dros gyfnod o ddeng mlynedd, mae’r Llywodraeth yn amcangyfrifir y gallai’r newid o dri chorff amgylcheddol i un olygu arbedion o hyd at £158 miliwn.

Pwysau ar adnoddau…

“Rydyn ni’n gwybod fod yr amgylchedd naturiol yn hanfodol i economi Cymru, a bod bywyd modern yn golygu bod y pwysau ar ein hadnoddau naturiol yn cynyddu’n gyson,” meddai John Griffiths.

“Golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed i reoli ein hamgylchedd mor effeithiol ac effeithlon â phosib, i sicrhau y canlyniadau gorau i Gymru. Wedi ystyried yr achos busnes yn ofalus, rwy’n bendant y bydd sefydlu un corff amgylcheddol yn sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli mor gynaliadwy ac effeithiol â phosib.”

Dywedodd y byddai’r newid yn golygu ffordd symlach o weithio ac yn sicrhau fod pethau’n cael eu cyflawni’n “fwy effeithiol, fod gwerth am arian a chanlyniadau gwell i bobl Cymru, busnesau Cymru a’r amgylchedd.”

Cyngor Cefn Gwlad

Fe ddywedodd Morgan Parry, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad  Cymru wrth Golwg360 fod “yr her i staff ac aelodau’r Cyngor yn cynnwys gweithio i greu rhywbeth sy’n werth chweil ac yn rhywbeth arbennig i Gymru.

“Mae’n amser cyffrous iawn – ‘dw i wedi cefnogi’r synaid yma o’r dechrau,” meddai Morgan Parry. “Wrth i ni symud gwaith y Cyngor i gorff mwy, bydd gennym fwy o adnoddau a fwy o sgiliau a mwy o ddulliau o weithredu.

“Bydd gan y corff newydd lawer mwy o ffyrdd o ddylanwadu ac i helpu Cymru i edrych ar ol yr amgylchedd,” meddai cyn dweud na fydd diswyddiadau yn sgil yr uno.

“Doedd arbed arian ddim wrth wraidd y bwriad. Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n chwilio am ffyrdd i fod yn fwy effeithlon – ac os oes na ffyrdd o arbed mewn rhai llefydd bydd gennym arian ac adnoddau i fuddsoddi mewn llefydd eraill.”

Yr her fewnol i’r Cyngor fydd “creu corff newydd gyda chymeriad a phersonoliaeth a diwylliant newydd”.

“Beth dydyn ni ddim eisiau gwneud yw jest uno tri chorff. Mae’n bwysig dweud mai creu corff newydd ydan ni’n fan hyn.”

‘Croesawu’

Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: “Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, a byddwn yn rhoi ein cefnogaeth lawn i greu y corff newydd hwn tra’n parhau i gyflawni ein dyletswyddau i bobl Cymru ar lifogydd, troseddau gwastraff a rheoleiddio diwydiant,” meddai.

“Mae’r amgylchedd naturiol yn hollbwysig i economi Cymru.  Mae’n hanfodol ei fod yn cael ei reoli cystal â phosib, i sicrhau y canlyniadau gorau i Gymru.  Mae gan y corff newydd y gallu i gyflawni mwy ar gyfer pobl, economi ac amgylchedd Cymru.”

Fe ddywedodd Jon Owen Jones, Cadeirydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru y “gall Comisiwn Coedwigaeth Cymru edrych i’r dyfodol, wedi ymrwymo’n llawn i gyfrannu ein harbenigedd, ein dulliau o weithio a’n hymagwedd i’r sefydliad newydd”.

“Byddwn yn cydweithio i gael canlyniadau gwell i bobl, amgylchedd ac economi Cymru.  Bydd ein sgiliau rheoli tir a’n ffocws ar gyflawni yn chwarae rhan amlwg yn llwyddiant y corff newydd.”

Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog, bydd ymgynghoriad ar swyddogaethau’r corff newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2012.