George Osborne
Mae’r rhagolygon economaidd ar gyfer y Deyrnas Unedig wedi cael eu torri’n sylweddol gan Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol, yr OBR.

Ond mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud wrth Tŷ’r Cyffredin heddiw nad yw’r OBR, sy’n anibynnol oddi wrth y llywodraeth, yn rhagweld y bydd y DU yn dychwelyd i ddirwasgiad.

Mae’r OBR nawr yn rhagweld y bydd yr economi yn tyfu  0.9% ar gyfer y flwyddyn hon, a 0.7% ar gyfer 2012 – sydd yn sylweddol is na’r darogan yng nghyhoeddiad mis Mawrth, pan oedden nhw’n disgwyl gweld tyfiant o 1.7% am eleni, a 2.5% ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ond, mae’r OBR yn rhagweld y bydd yr economi’n tyfu 2.1% yn 2013, 2.7% yn 2014, a 3% yn 2015 a 2016.

Wrth gyflwyno’i ddatganiad heddiw, dywedodd y Canghellor fod yr OBR yn rhoi llawer o’r bai ar y twf siomedig yn yr economi, ac argyfwng dyledion gwledydd yr Ewro.

Yn ei ddatganiad, dywedodd y Canghellor y byddai’n rhaid i bobol y Deyrnas Unedig ddangos bod modd iddyn nhw “fyw o fewn eu gallu” os ydyn nhw am osgoi disgyn yn ôl i ddirwasgiad.

Dywedodd George Osborne hefyd fod y DU ar ganol y diffyg ariannol gwaethaf mewn hanes, ar wahan i adeg y rhyfeloedd, a bod y sefyllfa hynny wedi ei adael iddyn nhw “gan y llywodraeth diwethaf, er mwyn i’r Llywodraeth bresennol ei ddatrys.”

Dywedodd y Canghellor na fyddai’n gallu cwrdd â’i darged o dorri’r diffyg ariannol, ac i weld y ddyled genedlaethol yn disgyn erbyn 2014/15 – blwyddyn cyn y targed – gan fod y bwlch hwnnw nawr wedi diflannu.

Dywedodd George Osborne y byddai’r mesurau newydd yn cadw’r ddisgl yn wastad am y tro, heb ychwanegu at y dyledion, nac ychwaith yn cynnig arbedion.

Mae Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls wedi beirniadu’r cyhoeddiad heddiw, gan ymosod yn benodol ar gynllun toriadau George Osborne.

“Mae Cynllun A wedi methu’n llwyr,” meddai, wrth ymateb i’r datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin, gan gyhuddo’r glymblaid yn San Steffan o dorri’n “rhy llym, yn rhy gyflym,” a heb ddim i’w ddangos am yr aberth hynny yn y diwedd.