Mae undeb Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru (ATL) wedi mynegi pryder ynglŷn â nifer yr ysgolion cynradd sydd a mwy na 30 o blant mewn un dosbarth.

Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau heddiw, yn dangos fod cynnydd yn nifer y plant cynradd sydd yn gorfod rhannu ystafell ddosbarth gyda 30 a mwy o blant eraill.

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg yr undeb, Dr Philip Dixon: “Bydd niferoedd dosbarth di-reolaeth yn cael effaith gwael iawn ar addysg ein plant.”

Mae’r ffigyrau’n dangos fod y cynnydd graddol wedi digwydd yn ystod y saith mlynedd diwethaf.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, mae’r cynnydd wedi ail-ddechrau ers 2004, ond bod y pum mlynedd cynt wedi dangos gostyngiad llawer mwy sylweddol yn nifer y plant dosbarth gyda mwy na 30 o ddisgyblion.

Ond yn ôl Cyfarwyddwr Addysg y Gymdeithas, Dr Philip Dixon, mae’r ystadegau’n bryderus gan fod “tuedd i gynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, tuag at ddosbarthiadau mwy mewn ysgolion cynradd.”

Er hynny, mae’r ffigyrau’n parhau’n gymharol isel, er gwaetha’r cynnydd diweddar.

Mae 3.8%, sef 3,882 o blant oed babanod yn gorfod rhannu ystafell ddosbarth gydag o leiaf 30 o blant, tra bod 6.6% o ddisgyblion oed iau, sef 8,175 o blant, yn gorfod rhannu ystafell ddosbarth gyda 30 o ddisgyblion.

“Er bod nifer yr ysgolion yn fach, mae’n dal yn bryderus fod  nifer y dosbarthiadau babanod sydd â dros 30 o ddisgyblion wedi codi 25% o fewn blwyddyn, a nifer y dosbarthiadau iau sydd â dros 30 o ddisgyblion wedi codi 10%,” meddai Dr Philip Dixon.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau cadarn i atal y tuedd yma nawr,” meddai.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, mae nifer y dosbarthiadau babanod a iau sydd â dros 30 o ddisgyblion wedi codi ychydig dros y saith mlynedd diwethaf, “ond mae’n parhau’n is na degawd yn ôl pan gafodd dyletswyddau deddfwriaethol eu rhoi ar awdurdodau lleol o safbwynt maint dosbarthiadau plant.”

Yn 2001, roedd 25% o ddosbarthiadau plant iau yng Nghymru â dros 30 o ddisgyblion, tra bod ychydig dros 2% o ddosbarthiadau babanod yng Nghymru â dros 30 o ddisgyblion.