Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gymryd agwedd newydd tuag at greu swyddi a hybu’r economi “cyn iddi fynd yn rhy hwyr.”

Daw ei alwadau o flaen Datganiad yr Hydref heddiw, pan fydd y Canghellor George Osborne yn cyflwyno’r diweddaraf ar sefyllfa’r economi.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod angen i Weinidogion San Steffan ail-ystyried eu polisiau ar sail perfformiad yr economi.

“Mae nifer y bobol ddi-waith yn dal i dyfu, a dydi’r swyddi sydd eu hangen ar bobol ifanc ddim yno,” meddai.

“Mae’r toriadau’n rhy ddwfn ac yn rhy gyflym, ac yn mygu’r twf bregus iawn sydd wedi bod hyd yn hyn. Wrth i’r Canghellor baratoi Datganiad yr Hydref, mae’r adeg wedi dod i gymryd agwedd newydd.”

Y Datganiad

Mae disgwyl gweld toriadau mewn treth i fusnesau a help i rieni sy’n gweithio ymhlith y pecyn o fesurau fydd yn cael eu cyhoeddi gan George Osborne heddiw, mewn ymdrech arall i dyfu economi fregus Prydain.

Er gwaetha’r rhagolygon economaidd tywyll yn rhybuddio fod y DU ar fin disgyn yn ôl i mewn i ddirwasgiad, bydd y Canghellor yn mynnu bod rheolau gwariant tynn y Llywodraeth wedi creu “manteision gwirioneddol” i Brydain, gan gynnwys torri ad-daliadau llog ar fenthyciadau, ac arbed £20 biliwn i’r Trysorlys dros bedair blynedd.

Mae disgwyl i’r Canghellor ddatgelu nifer o newidiadau yn canolbwyntio ar dwf, wrth dargedu busnesau bach, heddiw.

Bydd Datganiad yr Hydref yn cael ei wneud y prynhawn ’ma ychydig wedi 12.30pm yn Nhy’r Cyffredin.