Mae disgwyl cyhoeddiad y bydd tri phrif corff amgylcheddol Cymru yn cael eu huno.

Maen bosib y daw’r newyddion heddiw am y bwriad i dynnu’r Asiantaeth Amgylchedd, y Cyngor Cefn Gwlad ar Comisiwn Coedwigaeth at ei gilydd.

Mae Golwg360 yn deall y bydd gweinidogion yn trafod y syniad heddiw gyda’r bwriad o wneud penderfyniad terfynol.

Fe fyddai’n golygu bod un corff yn gyfrifol am yr amgylchedd o ran bywyd gwyllt, cynefinoedd, defnydd tir, dŵr, carthffosiaeth, llifogydd a choedwigaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn y broses o gael yr hawl i wneud yr uno trwy’r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy’n mynd trwy’r Senedd yn San Steffan.

Fe fyddai’n golygu bod rhaid datganoli’r Asiantaeth Amgylchedd a’r Comisiynwyr Coedwigaeth ond mae’r gwaith trafod wedi bod ar droed ers tua dwy flynedd.