Yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Fwyd mae Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd yn rhybuddio aelodau’r cyhoedd am frand anghyfreithlon o fodca a all fod ar werth yng ngogledd Cymru.

Mae’r cynnyrch yn cael ei adnabod fel ‘Drop Vodka’, 70cl, ac mae wedi’i botelu yn yr Eidal neu Ffrainc.

Yn ôl yr Asiantaeth Fwyd, nid yw’r  cynnyrch yn cydymffurfio a nifer o ofynion angenrheidiol, ac mae na bryderon diogelwch bwyd yn dilyn samplo’r cynnyrch, wrth i gynghorau ganfod sylweddau peryglus megis Propan-2-ol yn ogystal â sylweddau eraill a allai achosi niwed i iechyd.

Mae Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn annog unrhyw un sy’n dod ar draws y fodca i gysylltu â nhw ar unwaith ar (01286) 682728 neu drwy e-bost safmas@gwynedd.gov.uk