Fe allai cleifion yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth fod wedi anadlu llwch asbestos marwol yn ôl ymchwiliad gan Y Byd ar Bedwar sy’n cael ei ddarlledu heno.

Mae’n bosib y gallai cleifion fod wedi dod i gyswllt ag asbestos yno yn ystod cyfnod o bum mlynedd rhwng 2004 a 2009, meddai’r rhaglen.

Daw’r newyddion i’r wyneb bedwar mis wedi cyhoeddi adroddiad damniol gan yr Awdurdod Gweithredol ar Iechyd a Diogelwch (HSE) i fethiannau yn yr ysbyty.

Ar y pryd fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sydd bellach yn gyfrifol am redeg Ysbyty Bronglais, ddweud “nad oedd [asbestos] mewn ardaloedd oedd ar agor i gleifion na’r cyhoedd”.

Ond, fe fydd rhaglen Y Byd ar Bedwar yn datgelu y gallai cleifion fod wedi eu rhoi mewn perygl o anadlu’r deunydd niweidiol sy’n gallu achosi canser.

Poeni am yr effeithiau

Roedd Peter Davies o Benrhyncoch yn drydanwr yn yr ysbyty am 28 mlynedd, ac mae’n poeni am yr effeithiau posibl ar ei iechyd. Bu’n gweithio yng nghanol asbestos yn yr ysbyty.

“Yn y boiler house, er enghraifft, ro’dd pwmpiau yn vibrato y peipiau ma, wedyn wrth gwrs o’dd y stwff ma [asbestos] yn cw’mpo bant wedyn,” meddai wrth Y Byd ar Bedwar.

Dywedodd hefyd y gallai fod wedi cario’r llwch asbestos yn ddiarwybod ar ei ddillad drwy wardiau ac ardaloedd eraill yr ysbyty.

“Baswn i yn dod mas o dan y llorie a wedyn yn gwisgo’r un dillad i fynd ar hyd [yr ysbyty]. Felly wrth gwrs, o’dd e’n beryglus wedyn achos o’n ni yn cario fe.”

Mae’n dweud y gallai cleifion wedi dod i gyswllt â llwch asbestos yn syth o’r ardal lle roedd e’n gweithio.

“O’dd y ducts ’ma yn agored a bydde cleifion yn mynd nôl a ’mla’n ffor’ ’ny, a o’dd y llwch yn dod mas trwy le o’n i yn mynd lawr.”