Mae un o gynghorau Cymru wedi gwahodd eu staff i gymryd profion iechyd, fel rhan o’u cynlluniau i gadw’r gweithlu yn iach.

Mae gweithwyr Cyngor Sir Gâr wedi rhoi’r cyfle i’w gweithwyr fynd i gael profi eu risg o ddatblygu cyflyrau fel osteoporosis, canser y coluddyn, a phroblemau â’r galon.

Mae’r profion yn cynnwys sganio dwysedd yr esgyrn, sy’n arbennig o ddefnyddiol i fenywod – sef y rhai sy’n fwyaf tebygol o ddatblygu osteoporosis.

Mae dynion dros 45 oed yn cael cynnig prawf gwaed cyflym er mwyn mesur lefel yr antigen yn eu gwaed sy’n dueddol o achosi canser y coluddyn.

Bydd hefyd llawer iawn o asesiadau cardiofasgiwlaidd sydd yn gallu mesur y niwed i wal y rhydweli trwy ddefnyddio dyfais gyffredin i fesur pwysedd gwaed.

Mae’r Uned Iechyd Galwedigaethol, sy’n trefnu’r ymgyrch, yn gobeithio y bydd pobol yn gallu mynd yn ôl at eu meddygon teulu i drafod y problemau os oes unrhywbeth yn codi yn ystod yr ymgyrch.

Yn ôl Luticia Grosvenor, y cydlynydd Iechyd Galwedigaethol, mae nifer o’r cyflyrau cyffredin sy’n achosi marwolaeth gynnar yn gallu cael eu hosgoi mor belled â bod profion arbenigol ar gael er mwyn darganfod unrhyw arwyddion o risg.

“Yn anffodus, dyw unigolion ddim yn gallu dod o hyd i’r fath brofion drwy’r Gwasanaeth Iechyd, unai am nad yw’r offer drud ar gael yn nifer o ganolfannau meddygol, neu dyw’r bobol ddim yn ateb gofynion y drefn gyfeirio cleifion.”

“Mae’r gwasanaeth  hwn yn dod â’r offer profi yma at yr unigolion yn eu llefydd gwaith, a hynny am bris bach,” meddai.

Fe fydd y sgrinio yn dechrau yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn newydd, ar ddydd Mercher 11 Ionawr, ac yn Llanelli ar ddydd Iau, 12 Ionawr.

Gall pobol sydd â diddordeb yn y cynllun sgrinio gysylltu ag OAS heddiw ar 01525 7171254.