Fe fydd y cynllun gwirfoddol yn rhoi sticeri i ffermwyr i’w rhoi mewn pasportiau gwartheg i ddangos dyddiadau profion y diciâu.

Ar ôl i gynllun peilot gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru fe benderfynodd Bwrdd Rhanbarthol Diddymu’r Diciau yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd i weithredu’r cynllun drwy’r wlad.

Fe fydd y rhai sy’n cynnal profion y diciâu yn rhoi sticeri i’r ffermwyr am bob anifail sydd wedi cael prawf ac a fydd yn cael ei symud neu ei werthu o fewn 60 niwrnod.

Mae prif swyddog milfeddygol Cymru, Dr Christianne Glossop, wedi croesawu’r cynllun gan ddweud y bydd “o gymorth mawr i’r rhan fwyaf o ffermwyr.

“Fe ddylai unrhyw benderfyniad i brynu gwartheg ystyried hanes profion diciâu y gyrr.  Fe fydd y cynllun yma yn ei gwneud hi’n haws i ffermwyr sy unai yn prynu neu werthu gwartheg.”

Yn gynharach eleni cafodd panel ei benodi yng Nghymru i adolygu’r dystiolaeth wyddonol ar sut i fynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg. Cafodd cynlluniau i ddifa moch daear yng Ngorllewin Cymru eu hatal ym m is Mehefin tra bod yr adolygiad yn cael ei gynnal.