Ieuan Wyn Jones - penderfynu bod rhaid gweithredu
Mae disgwyl y bydd Bwrdd Gweithredu Cyngor Sir Gaerfyrddin yn penderfynu heddiw ar gynllun i atal ceir rhag troi ar draws rhan prysur o ffordd yr A48 yn y sir.

Roedd y penderfyniad wedi ei ohirio ddechrau’r mis ond y disgwyl yw y bydd y cynghorwyr yn penderfynu o blaid y cyfyngiadau ar y ffordd rhwng Cross Hands a Phont Abraham.

Mae nifer o ddamweiniau angheuol wedi bod ar y tair milltir a hanner o ffordd, gydag amryw wedi eu hachosi gan gerbydau’n troi i’r dde ar draws y ffordd ddeuol, yn arbennig i bentre’ Cwmgwili.

Roedd Crwner Sir Gaerfyrddin wedi rhybuddio bod angen gweithredu ar ôl dwy ddamwain farwol ar y gyffordd honno yn ystod 2009.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i weithredu ym mis Tachwedd 2009, fe ddywedodd llefarydd ar ran y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ei bod yn hanfodol edrych ar yr holl ddarn o ffordd, rhag i’r problemau symud i gyffyrdd eraill.

Pobol leol yn anhapus

Ond mae pobol leol yn cwyno y byddai rhwystro pob cerbyd rhag troi i’r dde ar yr holl gyffyrdd ar hyd y ffordd yn arwain at anawsterau mawr iddyn nhw.

Eu dadl nhw yw y byddai gosod cyfyngiadau cyflymder ar y ffordd yn well – ar hyn o bryd, mae ceir yn cael gyrru 70 milltir yr awr yno ac mae’r ffordd yn estyniad o’r M4.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor Sir i ddatblygu’r cynllun ar ôl cael eu beirniadu am fethu â gweithredu.