Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru’n gofyn am ragor arian Ewropeaidd i gefnogi datblygu economaidd yng Nghymru.

Fe fydd Carwyn Jones yn mynd i Fforwm i drafod cronfeydd datblygu mawr yr Undeb – y Cronfeydd Strwythurol – gan ddweud eu bod yn angenrheidiol ar gyfer yr economi yng Nghymru.

“Mae arian yr Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i greu traddodiad o dwf cynaliadwy cryf yng Nghymru,” meddai Carwyn Jones, gan ddadlau bod y ffigurau economaidd diweddar sy’n dangos cwymp trwy wledydd Prydain yn cryfhau ei achos.

“Mae’r lleihad diweddaraf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y Deyrnas Unedig yn dangos pa mor bwysig yw hi i barhau i ddefnyddio pob ffordd i gefnogi a hybu ein heconomi – yn enwedig wrth ystyried y sefyllfa ariannol anodd ar hyn o bryd.

“Mae hyn i gyd yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio’r Cronfeydd Strwythurol yn effeithiol ac yn strategol.”

Beirniadu

Er hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am fethu â gwneud defnydd effeithiol o’r cronfeydd, yn arbennig y rhai ar gyfer yr ardaloedd tlota’ yn y Gorllewin a’r Cymoedd.

Er eu bod eisoes wedi cael arian o’r Cronfeydd ers mwy na deng mlynedd, mae rhannau o Gymru’n parhau i fod yn gymwys amdanyn nhw.

Ond fe fydd Carwyn Jones heddiw’n dweud bod angen i’r gefnogaeth barhau.

Meddai Carwyn Jones

Mae datganoli’n ein galluogi i ddefnyddio adnoddau o Frwsel ar gyfer y polisïau sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar ein cyfer ni yng Nghymru ac y mae Ewrop 2020 yn ganolog iddyn nhw.

“Trwy weithio ochr yn ochr â’n partneriaid, rydyn ni’n gallu mynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd rhanbarthol penodol, gan weithredu ar lawr gwlad lle y gallwn ni sicrhau’r effaith fwyaf.”