Bryniau Clwyd - ardal o harddwch naturiol eithriadol am gael ei hymestyn
Mae’r penderfyniad i ymestyn maint ardal o harddwch eithriadol naturiol Bryniau Clwyd wedi creu rhwyg ymysg Ceidwadwyr Gogledd Cymru.

 Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar lawr y siambr yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Antoinette Sandbach, AC dros ranbarth Gogledd Cymru a llefarydd amaeth y Ceidwadwyr, ei bod yn “siomedig iawn” â’r penderfyniad.

Ond mae Ceidwadwadwr arall o’r gogledd, Darren Millar, sy’n cynrychioli etholaeth Gorllewin Clwyd, yn dweud ei fod “wrth ei fodd” â’r cyhoeddiad gan Weinidog Amgylchedd Cymru.

Mae Darren Millar nawr eisiau gweld yr ardal yn cael ei dynodi’n “Barc Cenedlaethol mwyaf newydd Cymru. Ac fe fyddaf yn dal i ymgyrchu dros hyn,” meddai.

 “Mae tirwedd unigryw, hanes, a threftadaeth naturiol y Bryniau yn denu degau o filoedd o bobol i Ogledd Cymru bob blwyddyn,” meddai.

 “Mae’n bwysig iawn bod ein heconomi leol a’n busnesau lleol yn manteisio o’r newyddion hyn.”

‘Cenedlaethau o ffermwyr’

Barn Antoinette Sandbach fodd bynnag yw mai’r economi a’r busnesau lleol fydd yn dioddef fwyaf oherwydd y penderfyniad.

 “Mae tirwedd Bryniau Clwyd wedi cael ei siapio gan waith caled cenedlaethau o ffermwyr,” meddai Antoinette Sandbach.

 “Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru sylweddoli nad dim ond cyrchfan hamdden yw cefn gwlad.”

 Ychwanegodd fod y penderfyniad yn mynd yn “groes i ddymuniad y cymunedau lleol,” ac nad oes “unrhyw dystiolaeth glir fod ymestyn yr ardal harddwch eithriadol naturiol yn mynd i wella’r amgylchedd.

 “Ond mae pob tebygolrwydd y bydd y penderfyniad yn ychwanegu rhagor o reolau a biwrocratiaieth i ffermydd amaethyddol.”