Mae bacteria e-coli wedi cael ei ddarganfod mewn trydydd babi yn Ysbyty Singleton, Abertawe, lle bu farw dau fabi o’r haint yn ystod yr wythnos.

Dywed llefarydd ar ran yr ysbyty nad yw’r babi wedi dangos unrhyw symptomau o’r afiechyd hyd yma.

Roedd uned mamolaeth yr ysbyty wedi ei gyfyngu i enedigaethau beichiogrwydd tymor llawn ers dydd Mawrth ar ôl y ddau achos marwol, ac mae’r achos diweddaraf yn golygu y bydd y cyfyngiadau’n parhau.

Parhau hefyd mae’r ymchwiliad i’r ffordd y cafodd yr haint ei ledaenu yn yr ysbyty, a bydd ymchwiliad annibynnol gan Arolygiaeth Iechyd Cymru’n edrych ar ymateb yr ysbyty i’r achosion.