Mae dirgelwch yn parhau tros achos tân sydd wedi difrodi saith o dai ac achosi niwed difrifol i wraig o dde Cymru.

Ar ôl i ddiffoddwyr ddweud ddoe bod y tân ym Mlaengarw wedi’i danio’n fwriadol, mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn dweud nad yw hynny’n sicr.

Dyw achos y tân ddim yn glir, medden nhw, ac felly does dim modd dweud eto a gafodd ei gynnau ar fwriad, neu beidio.

Lledu

Roedd 20 o bobol wedi gorfod cael eu clirio o’u cartrefi yn Rhes yr Orsaf ym Mlaengarw ger Pen-y-bont ar Ogwr ac mae un wraig yn parhau i fod yn yr ysbyty.

Mae ganddi anafiadau difrifol ond mae’n debyg bod ei chyflwr yn “sefydlog”.

Roedd y tân wedi dechrau yn un o’r tai canol ac wedi lledu trwy’r to i gartrefi o boptu. Yn ôl yr heddlu, mae eu hymchwiliadau’n parhau.