Wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol ddatgelu ei bod wedi colli degau o filoedd o bunnau wrth gynnal y Brifwyl yn Wrecsam eleni, mae cynghorydd lleol yn dweud bod y cyngherddau gyda’r nos wedi methu denu cynulleidfa.

 Yn ôl neges twitter gan yr Eisteddfod ei hun roedd gostyngiad yn “incwm cyngherddau, stondinau a nawdd mewn cyfnod anodd wedi creu colledi i’r Eisteddfod, nid costau artistiaid. Dim mwy tan ddydd Sadwrn.”

Mi fydd Cyngor yr Eisteddfod yn cyfarfod i drafod y colledion yn Aberystwyth yfory.

 Yn ôl y Cynghorydd Arfon Jones o Blaid Cymru Wrecsam roedd pobol y dref  “wedi cyrraedd y targedu lleol” mwy neu lai yn ogystal â thargedau noddwyr.

“Fe gawson ni niferoedd da yno a phopeth yn rhedeg yn esmwyth. Ond, y siom mwyaf oedd y niferoedd ddaeth i’r cyngherddau nos,” meddai. 

Mi fuodd Arfon Jones mewn tri chyngerdd gyda’r nos, ac un ohonynt yn costio £29.

 “Ro’ ni’n cofio’r ffigwr hwnnw am fy mod i’n meddwl ei fod o’n ddrud,” meddai’r cyn-blismon cyn ychwanegu nad oed ganddo broblem talu £17 i fynd i mewn i’r Maes yn ystod y dydd “am ei fod yn werth da am arian gan fod modd mynd i bob man a threulio’r dydd yn y Steddfod.”

Roedd yn teimlo fod y cyngherddau gyda’r nos yn pandro llawer gormod i bobol y teledu.

 “Yr unig beth roeddwn i’n wneud yno oedd cymorthdalu S4C,” meddai.

Ymateb yr Eisteddfod

Fe ddywedodd yr Eisteddfod na fydden nhw’n gallu datgelu union swm y golled ariannol ar hyn o bryd. “Mae’r Cyngor yn cyfarfod yfory ac ar ôl hynny byddwn yn fodlon gwneud cyfweliadau,” meddai llefarydd wrth Golwg360.

“Dydyn ni ddim yn mynd i ddatgelu ffioedd unigolion, ond costiodd y saith cyngerdd yn Wrecsam £120,000 ac mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys cyflwyniad artistig a llwyfannu am yr wythnos,” ychwanegodd. 

Mae Arfon Jones, a fu’n rhan o’r ymgyrch godi arian yn Wrecsam, am wybod faint o dâl mae prif artistiaid y cyngherddau nos yn dderbyn am berfformio.

 “Fel Pwyllgor lleol, dydyn ni ddim ond yn cael gwybod beth rydan ni angen cael gwybod gan yr Eisteddfod. Rhywbeth mewnol – dydyn ni ddim yn gwybod sut mae’n gweithio,” meddai.

 “Dw i’n meddwl bod angen cwestiynau faint mae artistiaid yn cael eu talu. Y teimlad gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yw ei fod o fel bonws Nadolig i artistiaid Cymraeg.” 

Roedd am bwysleisio nad yw’n cyhuddo’r Eisteddfod nac artistiaid Cymraeg “o ecsbloetio neb – jest gofyn y cwestiynau.”

Mi wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent y llynedd golled o £47,000.

 “Os ydan ni am wneud colledion fel hyn yn flynyddol – mae angen edrych ar y pethau hyn,” meddai Arfon jones.

“Oes yna rywun yn gwybod rhywbeth am y berthynas rhwng S4C a’r Eisteddfod? S4C sy’n talu pres i’r Eisteddfod am gael recordio – neu’r Eisteddfod sydd. Dydw i ddim yn gwybod dim byd am y berthynas.

“Roedd nosweithiau Cymdeithas yr Iaith yn arbennig o lwyddiannus yn yr Eisteddfod eleni. Ond dim ond hyn a hyn o gynulleidfa sydd gan yr Eisteddfod – os oes gen ti Dafydd Iwan ym Maes C, dau lwyfan ym Maes B, Cymdeithas yr Iaith, Theatr Bara Caws mewn clwb a chyngherddau steddfod – does dim modd cael cynulleidfa i bob un o’r rhain, mae’n rhaid rhesymoli hyn i gyd. Oes angen rhywbeth ym mhob man?”

Ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn £493,000 o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.

Mae Golwg360 yn aros am ymateb gan S4C.