Mae George Michael wedi gohirio dau o’i gyngherddau yng Nhaerdydd dros y penwythnos ar ôl iddo gael ei daro’n wael.

Roedd y canwr i fod i berfformio yng Nghaerdydd ar nos Sadwrn a nos Sul fel rhan o’i daith Symphonica.

Bu’n rhaid iddo ganslo cyngherddau yn Fiena, Llundain a Strasbwrg yn ddiweddar ar ôl iddo gael niwmonia. Mae’n cael triniaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran George Michael y byddai dyddiadau eraill yn cael eu cyhoeddi yn y man.