Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gomisiwn  y Cynulliad i wneud cais fod peth o danwariant y Cynulliad yn mynd “tuag at sicrhau Cofnod gwbl ddwyieithog.”

Daw hyn wedi i’r Bwrdd Rheoli nodi bod “tanwariant o tua £1 miliwn wedi’i amcangyfrif ar gyfer diwedd y flwyddyn. Bydd angen gwneud penderfyniad erbyn mis Rhagfyr ynghylch a oes angen cyllideb ychwanegol er mwyn dychwelyd cyllid i’r Bloc Cymreig.”

Fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360 heddiw y bydd “modd iddynt ail-ddechrau darparu Cofnod Cymraeg yn syth, gan eu bod nhw’n disgwyl tanwariant sylweddol yn eu cyllideb.”

‘Sicrhau cofnod llawn ddwyieithog’

“Mae hyn yn anhygoel. Os oes £1 miliwn  ar ôl yn y coffrau, does dim rheswm pam na all peth o’r arian hwnnw gael ei glustnodi i sicrhau Cofnod llawn ddwyieithog,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Yn ôl ym mis Gorffennaf, fe benderfynodd y Comisiwn eu bod o blaid Cofnod Cymraeg mewn egwyddor, yn ddibynnol ar ddod o hyd i ffordd gynaliadwy o’i ddarparu.

“Daeth Bwrdd yr Iaith  i’r casgliad bod y Cynulliad yn torri ei bolisi iaith trwy beidio â darparu Cofnod llawn ddwyieithog. Pam nad ydyn nhw’n gwrando? Mae pob corff a chwmni yng Nghymru yn edrych tuag at ein gwleidyddion yng Nghaerdydd am arweiniad ar y Gymraeg. Os na allen nhw gyflawni ar ein rhan, fe fydd y Gymraeg yn dioddef ym mhob rhan o fywyd.”

‘Sylfaenol’

Wrth i’r Comisiwn gyfarfod yfory, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw arnyn nhw i wneud cais fod peth o’r arian hwn yn mynd tuag at sicrhau Cofnod gwbl ddwyieithog.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau os yw’r gwleidyddion yn y Cynulliad o ddifrif am wneud y Gymraeg yn ganolog i waith y corff mai “peth hollol sylfaenol yw sicrhau mewn statud bod Cofnod eu trafodion ar gael yn Gymraeg.”

“Mae’n codi’r cwestiwn: pam fod swyddogion wedi llunio Bil drafft sydd yn eithrio’r Cynulliad rhag gorfod darparu dogfen mor bwysig â hyn yn ddwyieithog? Newid i’r Bil hwnnw yw’r unig ffordd o sicrhau nad oes rhaid codi’r ymgyrch yma eto”.