Wylfa
Mae teulu o ffermwyr llaeth ar Ynys Môn wedi dweud y bydden nhw’n  “gwrthsefyll tactegau bwlio” cwmni Horizon sydd am godi ail atomfa ger Wylfa.

Mae Richard a Gwenda Jones a’r teulu sy’n berchen fferm Caerdegog ger Llanfechell wedi  gwrthod gwerthu eu tir i Horizon.

Mae nhw nawr yn dweud bod Horizon Nuclear Power (HNP) wedi ceisio am bwerau gorfodi i asesu addasrwydd tir y fferm ar gyfer anghenion adeiladu Wylfa B. Roedd HNP wedi cyflwyno cais yn ddiweddar i Ofgem am “weithredu” Adran D o’u Trwydded Cynhyrchu Trydan.

Yn syth ar ôl cael cydsyniad, ceisiodd HNP am ganiatâd Ofgem i weithredu’u hawliau archwilio dan Ddeddf Trydan 1989. Byddai hynny’n galluogi deilydd trwydded cynhyrchu i fynd ar dir a’i archwilio er mwyn canfod ei addasrwydd fel safle  adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan. Byddai hefyd yn rhoi’r pŵer iddynt weithredu’u hawdurdod i wneud pryniant tir gorfodol.

Ar brynhawn dydd Iau, Tachwedd 17, fe dderbyniodd Richard Jones a’i deulu lythyr uniaith Saesneg gan Ofgem yn eu hysbysu o’r hawliau a roddwyd yn ddiweddar i HNP i gael mynediad i’r tir yng Nghaerdegog.

‘Afresymol’

“Methodd Ofgem yn eu dyletswydd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg i ddarparu’r dogfennau yn Gymraeg i deulu Caerdegog. Ar ben hynny, mae’n afresymol i unrhyw wrthwynebiad orfod cael ei gyflwyno o fewn terfyn amser cyfyng o bum diwrnod gwaith, yn enwedig o ystyried cynnwys cyfreithiol yr ohebiaeth,” meddai Dylan Morgan o grŵp ymgyrchu PAWB.

“Er i Horizon ddweud yn gyhoeddus ychydig ddyddiau yn ôl mai dewis olaf iddynt fyddai pryniant gorfodol, dyma nhw ar yr un gwynt yn gweithredu’u hawdurdod newydd ychydig ddyddiau ar ôl ei dderbyn,” meddai Dylan Morgan.

“Byddwn fel teulu yn gwrthsefyll tactegau bwlio Horizon yn eu cais i ddinistrio’n hetifeddiaeth, ein bywoliaeth, a’n dyfodol,” meddai Richard Jones ar ran teulu Caerdegog.

‘Angen mwy o dir’.

Fe ddywedodd Leon Flexman, llefarydd ar ran Horizon wrth Golwg360 ei fod wedi dod yn amlwg y bydd Horizon “angen mwy o dir i’r de o’r safle fel rhan o’n cynlluniau i ddatblygu gorsaf bŵer newydd yn Wylfa.”

“Bydd angen y tir hwn yn ystod y cyfnod adeiladu ac ar gyfer gwaith tirlunio er mwyn sicrhau bod yr orsaf yn cyd-fynd â’r amgylchedd naturiol,” meddai.

“Rydym yn cynnal trafodaethau gyda thirfeddianwyr lleol ynglŷn â’n gofynion ac rydym wedi gofyn am eu caniatâd i gynnal arolygon amgylcheddol ac ecolegol i ddeall pa blanhigion ac anifeiliaid sy’n bresennol. Pwrpas hyn yw helpu i reoli effaith gorsaf bŵer newydd. Mewn rhai achosion rydym hefyd yn awyddus i brofi a yw’r tir yn addas ar gyfer gwaith tirlunio yn y dyfodol a defnydd dros dro yn ystod y cyfnod adeiladu.”

Mewn ambell i achos, dywedodd nad yw Horizon wedi cael caniatâd gan dirfeddianwyr.

“…ond mae’n angenrheidiol ein bod yn cael y data amgylcheddol o gychwyn tymor y gaeaf felly rydym wedi cyflwyno cais i’r awdurdod ynni i gael mynediad i’r tir, ddim ond at ddibenion yr arolygon. Byddai’n llawer gwell gennym ddod i gytundeb gyda thirfeddianwyr lleol yn uniongyrchol ond mae hyn yn fater brys oherwydd ein bod ar drothwy’r gaeaf,” meddai.

‘Parhau i drafod’

“Mae gwneud cais am ganiatâd i gael mynediad i dir yn y ffordd yma yn wahanol i wneud cais am bryniant gorfodol. Anaml iawn y mae gorchymyn pryniant gorfodol i ennill tir yn ateb delfrydol i unrhyw ochr – dim ond wedi i bopeth arall fethu yr ystyrir y trywydd hwn.

“O ran Mr a Mrs Jones, byddai’n well gennym barhau i drafod yn uniongyrchol gyda hwy. Mae’n debygol iawn y bydd arnom angen tir ychwanegol yn yr ardal hon ac roeddem o’r farn y byddai’n well codi hyn mor fuan â phosibl. Rydym yn deall eu safbwynt a bydd rhaid i ni ystyried beth i’w wneud os na allwn ddod i unrhyw fath o gytundeb na chyfaddawd.”