Mae ymchwiliad yn parhau ar ôl i  ddau fabi farw ar ôl cael eu heintio â math o E.coli mewn ysbyty yn Abertawe.

Roedd un o’r babanod wedi ei eni’n gynnar ac wedi marw yn Ysbyty Singleton, Abertawe ar 4 Dachwedd.

Bu farw babi arall oedd wedi cael ei heintio yn yr ysbyty.

Dywed swyddogion iechyd bod yr achosion bellach dan reolaeth.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ymchwilio i’r ddau achos o ESBL E.coli yn uned famolaeth yr ysbyty. Fe fyddan nhw’n ceisio darganfod sut yr oedd y traws heintiad wedi digwydd.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Dr Bruce Ferguson bod profion wedi dangos bod un o’r babanod wedi ei heintio â ESBL E.coli yn yr ysbyty.

“Yn drist iawn, roedd yn fabi oedd wedi ei eni’n gynnar iawn ac er gwaetha ymdrechion y staff, bu farw’n ddiweddarach. Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y crwner i achos marwolaeth y babi.”

Roedd yr ail achos yn ymwneud â mam oedd wedi ei heintio gyda ESBL E.coli ond sydd ddim wedi dangos unrhyw symptomau a sydd ddim yn gorfod cael triniaeth.

Mae’n debyg ei bod hi hefyd wedi cael ei heintio yn yr ysbyty ond ni ellir cadarnhau hynny nes bod canlyniadau profion yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.

Cafodd tri achos arall eu cadarnhau, ond dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod nhw’n ymddangos fel achosion unigol.

Mae swyddogion iechyd yn pwysleisio nad ydy ESBL E.coli yr un fath â E.coli 0157 sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Dyw  ESBL E.coli  ddim yn achosi problemau i’r rhan fwyaf o bobl ond fe all achosi heintiau difrifol i unigolion bregus.

Mae profion wedi cael eu cynnal ar gleifion, offer a gwahanol rannau’r uned famolaeth ond does dim prawf o ESBL E.coli wedi ei ganfod, meddai Dr Ferguson.

Er hyn, mae’r ysbyty wedi cymryd camau i lanhau’r theatrau a’r wardiau babanod.

Dim ond genedigaethau sydd wedi cyrraedd y cyfnod llawn o 40 wythnos sy’n cael eu derbyn i Ysbyty Singleton ar hyn o bryd.

Dywed yr ysbyty eu bod yn arolygu’r sefyllfa yn gyson ac yn gobeithio codi’r cyfyngiadau’n fuan.

Dywedodd Dr Ferguson eu bod eisiau sicrhau mamau sy’n disgwyl rhoi genedigaeth yn yr ysbyty bod yr uned famolaeth yn agored fel arfer ar gyfer genedigaethau sydd 40 wythnos neu drosodd.

Ond ychwanegodd y dylai unrhyw un â phryderon neu gwestiynau gysylltu â’u bydwraig cymunedol neu ffonio llinell gymorth yr ysbyty ar 0774 761 5627.