Mae Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyfarfod am y tro cyntaf erioed heddiw  er mwyn cychwyn ar y gwaith o greu strategaeth academaidd y Coleg.

Yn ôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae aelodaeth y Bwrdd Academaidd yn cynnwys cynrychiolaeth uniongyrchol o’r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn ogystal â chynrychiolaeth ar sail bynciol neu ddisgyblaethol.  Mae’r Bwrdd Academaidd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o blith myfyrwyr sydd yn aelodau o’r Coleg.

‘Llunio strategaeth academaidd’

“Fel Cadeirydd y Bwrdd Academaidd rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu aelodau’r bwrdd i’r cyfarfod cyntaf ac i ddechrau ar y gwaith o lunio’r strategaeth academaidd,” meddai Dr Hefin Jones, Cadeirydd y Bwrdd Academaidd a Deon cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Yn ein cyfarfod cyntaf fe fyddwn ni’n edrych yn benodol ar ddatblygiadau pynciol, cynlluniau staffio a sawl mater arall wrth gwrs sy’n gysylltiedig â gwaith cynllunio academaidd y Coleg.”

Dywedodd bod “nifer helaeth o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg” ar hyn o bryd a bod y Coleg yn “freintiedig iawn i gael bod yn rhan o’r holl gyffro.”