Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol penodedig Bryniau Clwyd yn cael ei ymestyn.

Mewn cyhoeddiad ar lawr Siambr y Cynulliad y prynhawn yma, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, fod cais Cyngor Cefn Gwlad Cymru i ymestyn yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol wedi cael ei dderbyn.

Dywedodd y gweinidog fod cais y Cyngor Cefn Gwlad wedi ei fodloni a’i fod yn hyderus y bydd ymestyn yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol, sydd ar hyn o bryd yn 230 cilometr sgwâr o dir ar draws siroedd Dinbych a Wrecsam, yn denu mwy o bobol i’r ardal.

“Bydd hyn yn fanteisiol i harddwch naturiol a chymunedau yr ardal,” meddai John Griffiths wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw.

Pryderon

Ond mae pryderon dros y penderfyniad wedi cael eu codi gan nifer o garfanau amaethyddol yn yr ardal, sy’n pryderu y bydd hyn yn golygu rhwystrau pellach ar eu busnesau oherwydd y cyfyngiadau ar ddatblygu yn sgil ymestyn yr Ardal Harddwch Naturiol.

Wrth ymateb i’r newyddion heddiw, dywedodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Antoinette Sandbach ei bod yn pryderu na chafodd lleisiau’r rhai oedd yn pryderu eu clywed.

“Roedd mwy na hanner yr ymatebion i gais y Cyngor Cefn Gwlad yn anghytuno ag ymestyn yr Ardal Harddwch Naturiol,” meddai, “ac mae’n ymddangos fod barn y mwyafrif wedi ei anwybyddu.”

Yn ôl yr Aelod Cynulliad lleol, mae “cymunedau’r ardal, a phobol sy’n gweithio’n yr ardal, yn bryderus iawn” am yr estyniad.

“Mae ffermwyr lleol yn wynebu llawer mwy o reoliadau a biwrocratiaeth oherwydd y penderfyniad,” meddai.

Yn ôl un ffermwr lleol, Eifion Davies, a fydd yn cael ei effeithio gan ymestyniad yr Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol, mae’r penderfyniad yn “siom fawr.”

Mae Eifion Davies, sydd hefyd yn gadeirydd lleol ar undeb ffermwyr yr NFU, yn credu y bydd y penderfyniad yn creu rhwystredigaethau diangen i ffermwyr lleol.

“Dydi’r tirwedd yma ddim yn ‘naturiol’, maen nhw’n ganlyniad i ganrifoedd o ffermio,” meddai.

“Heb amaethyddiaeth cynaliadwy ac economi lleol iach, byddai’r tirwedd yma ddim yn cael ei gynnal, ac os yw ein cymunedau am barhau’n iach, mae’n rhaid i ni gael y rhyddid i ddatblygu.”

Yn ôl y ffermwr lleol, fe fydd y penderfyniad “yn cyfyngu’n fawr ar ein gallu ni i ddatbygu’n ffermydd yn iawn, ac mae’r penderfyniad wedi dod ar adeg pan mae disgwyl i’r boblogaeth gynyddu’n aruthrol, ynghyd â phris bwyd,” meddai.

Bydd Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd nawr yn cael ei adnabod fel ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac yn cynnwys Rhiwabon, Mynyddoedd Llantysilio, a Dyffryn Llangollen o’r Waun tuag at Corwen.