Mae Cyngor Powys wedi pleidleisio o blaid cadw darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanidloes.

Mewn newid munud ola’ i’r argymhellion i newid addysg yn y sir, fe benderfynwyd y byddai Ysgol Uwchradd Llanidloes yn parhau i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg i blant rhwng 11 a 16 oed.

Fe gymrodd hi dros dair awr y bore ’ma cyn i Gabinet y Cyngor dderbyn yr argymhellion i ad-drefnu system addysg y sir – gydag un newid i’r argymhellion gwreiddiol yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg a gafodd ei gynnig gan y cynghorydd â chyfrifoldeb dros addysg ym Mhowys, Stephen Hayes – sef cadw addysg cyfrwng Cymraeg yn Llanidloes.

Roedd yr argymhellion yn cynnig torri nifer yr ysgolion sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir o saith i bump – gan dorri’r ddarpariaeth yn ysgolion Llanidloes a’r Trallwng.

Roedd y Cyngor yn addo y byddai hyn yn arwain at wella’r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y pum ysgol oedd yn weddill.

Ond mae’r argymhellion wedi profi’n rhai dadleuol iawn yn lleol, gyda’r effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un arbennig o amhoblogaidd.

Yr wythnos diwethaf, fe ddisgrifiwyd yr argymhellion gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghyngor Powys, Aled Davies, fel modd o “osod arwydd y Welsh Not yn ôl am wddf Ysgol Uwchradd Llanidloes.”

Ymateb tebyg a gafodd yr argymhelliad gan nifer o bobol yn lleol, a bu’n rhaid i’r Cyngor Sir ymateb i hynny heddiw, trwy symud cyfarfod y Cabinet o Neuadd y Sir i’r Pafiliwn yn Llandrindod er mwyn rhoi digon o le i bawb oedd eisiau dod i wrando ar y trafodaethau.

Mae Cyngor Powys nawr gam yn agosach at gyflwyno’r newidiadau i system addysg y sir – newidiadau sydd i fod yn eu lle erbyn 2015 man pella’.