Mae cwpl wedi sôn am eu loes ar ôl i arbenigwyr mewn clinig IVF yng Nghaerdydd ddifetha cyflenwad o wyau ar y diwrnod y cawson nhw eu rhoi.

Roedd y cwpl wedi derbyn y newyddion dros y ffôn y noson ar ôl iddyn nhw gyrraedd adre o’r clinig.

Mae nhw bellach yn galw am newidiadau i sicrhau nad oes neb arall yn gorfod dioddef yr un profiad â nhw.

Dyma’r diweddara mewn cyfres o gamgymeriadau yng nghlinig ffrwythloni IVF Wales yng Nghaerdydd.

Yn gynharach y  mis hwn roedd y clinig wedi dod dan y lach am ddifetha sberm ar gam gan gleifion cansr oedd ar fin cael triniaeth.

Daeth y camgymeriad i’r amlwg mewn adroddiad gan yr Awdurdod  Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) sy’n rheoleiddio canolfannau IVF yn y DU. Dywedodd yr adroddiad eu bod nhw’n “hynod o bryderus” am y camgymeriadau oedd wedi digwydd yn y clinig eleni.

Ymhlith y rhai oedd wedi dioddef o ganlyniad i’r camgymeriadau hyn mae Chris, 35 a Lorraine, 34 o’r Barri.

Mae nhw wedi penderfynu rhoi cyhoeddusrwydd i’w stori er mwyn ceisio cael atebion eu hunain. Mae’r cwpl hefyd wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol.

‘Camgymeriad’

Roedd Chris a Lorraine wedi penderfynu cael triniaeth IVF ar ôl trio am saith mlynedd am blentyn. Fe fethodd un o’r triniaethau IVF yn 2007 ac ar ôl hynny fe benderfynodd Lorraine ofyn i’w chwaer am help. Ym mis Chwefror eleni roedd y cwpl wrth eu boddau ar ôl i ymgynghorwyr ddweud fod 10 o wyau gan chwaer Lorraine “o safon uchel iawn”.

Ond o fewn oriau, cafodd y cwpl alwad ffôn gan IVF Wales yn dweud bod yr wyau wedi cael eu difetha oherwydd “camgymeriad mecanyddol”.

Heddiw, fe gadarnhaodd yr arbenigwr IVF Guy Forster o gwmni cyfreithwyr Irwin Michell bod y cwpl wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol. Dywedodd bod y ddau yn awyddus i roi cyhoeddusrwydd i’w stori er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n rheoleiddio’r diwydiant yn cymryd camau i atal eraill rhag dioddef o ganlyniad i gamgymeriadau’r  clinig.

Dywedodd bod yn rhaid cynnal ymchwiliad llawn i’r mater i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. Roedd yn feirniadol hefyd o’r  Awdurdod  Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) am fod yn “aneffeithiol” yn eu hymdrech i wella safonau yn y clinig.

Dywedodd Dr Graham Shortland, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n cynnal IVF Wales, nad oeddan nhw’n gallu gwneud sylw manwl am yr achos am fod y cwpl yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y clinig. Ond ychwanegodd eu bod yn delio â chamgymeriadau yn unol â gofynion yr HFEA a bod eu hymchwiliadau yn drylwyr.