Cheryl Gillan
Mae sïon ar led y gallai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod ar fin gadael ei swydd yng Nghabinet San Steffan.

Mae nifer y bobol sydd wedi bod yn rhoi bet ar  weld Cheryl Gillan yn gadael ei swydd wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y bore.

Mae’r cynnwrf wedi ysgogi cwmni betio William Hill i dorri’r ods mai hi fydd y gweinidog nesaf i adael cabinet David Cameron o 8/1 i lawr i 2/1 – sy’n ei gwneud hi’n ffefryn i fynd.

Yn ôl y cwmni betio, mae’r rhuthr o fetio wedi gwneud iddyn nhw amau fod rhywun wedi rhyddhau gwybodaeth answyddogol am ddyfodol Ysgrifennydd Cymru.

“Gan mai hi yw Ysgrifennydd Cymru, rydyn ni braidd yn amheus rhag ofn fod rhywun wedi rhyddhau’r wybodaeth,” meddai llefarydd ar ran William Hill.

Yn ôl y cwmni cafodd “nifer o gyfrifon newydd eu hagor o fewn awr i’w gilydd gan gleientiaid yng Nghymru, Llundain, Surrey a Basingstoke, a phob un ohonyn nhw ond eisiau rhoi bet ar Ms Gillan i adael, tra bod pyndits gwleidyddol â chyfrifon hir-dymor gyda ni hefyd wedi bod yn gosod yr un bet.”

Ond mae llefarydd ar ran Ysgrifennydd Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 mai “dyfalu llwyr” yw’r sïon.

Er yn gwrthod cadarnhau nad oedd sail i’r honiadau, dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360 nad oedd ganddo fe “ddim un syniad o le mae’r honiadau yma wedi dod.”

Dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360 ei fod wedi “siarad â Cheryl Gillan y bore ’ma ac wnaeth hi ddim rhoi’r awgrym lleiaf ei bod hi am gamu lawr.”

Mae Cheryl Gillan wedi bod yn Ysgrifennydd Cymru ers 2010, ac mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Chesham ac Amersham ers 1992.

Mae sïon wedi bod ar led o’r blaen y gallai Cheryl Gillan gamu i lawr fel gweinidog yng Nghabinet David Cameron, wedi iddi ddweud y byddai’n ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru petai cynllun ar gyfer rheilffordd cyflym trwy ei hetholaeth, yn Chesham ac Amersham, yn cael ei gefnogi gan bleidlais yn San Steffan.